Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru — GLO a gweithio gyda'r cymunedau Pwylaidd

Big Pit

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Big Pit wedi gweithio gyda chymunedau glofaol ar draws Cymru i gasglu straeon a ffotograffau a’u cyhoeddi mewn cyfres o gylchgronau o’r enw

GLO

.

Mae llawer o straeon gwahanol wedi dod i’r fei o ganlyniad i’r project, o ddynion gafodd eu galw i weithio ym mhyllau glo Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd (ac sydd bellach yn byw ym mhob cwr o’r DU a thramor), mewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop a ddaeth i weithio yn niwydiant mwyngloddio Cymru ac unigolion a sefydliadau oedd yn rhan o Streic 1984/5.

Rhoddodd rhifyn 2011 gyfle i ni gysylltu â chymunedau maes glo’r Gogledd; ac mae’r cysylltiadau hynny wedi bod o fudd i Big Pit ac i gymuned lo’r gogledd.

Mae GLO wedi datblygu’n ffordd wych i ni ymgysylltu ag unigolion yn ogystal â chymunedau a grwpiau arbenigol. Mae wedi ein galluogi i ganfod a chofnodi hanes pobl yn ogystal ag ychwanegu at gasgliadau’r Amgueddfa.

Bydd rhifynnau’r dyfodol o GLO yn cynnwys straeon am lowyr a wasanaethodd yn y lluoedd arfog mewn sawl rhyfel gwahanol a straeon am Big Pit ei hun a chymuned Blaenafon. Y profiadau go iawn hyn, o enau pobl a fu yn ei chanol hi, sy’n helpu eraill i ddeall hanes cyfoethog ac amrywiol Cymru.

Os oes gennych chi stori i’w hadrodd a’i rhannu, cofiwch gysylltu â ni.

»

Rhagor o wybodaeth am Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru