Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru — Adroddiad ar ddefnydd technoleg Di-wifr a Bluetooth fel rhan o arddangosfa ‘Gemau heb Ffiniau’

Ffôn symudol

Yn 2012 cydweithiodd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru â chwmni Closeupmedia i arbrofi â defnyddio technoleg di-wifr a Bluetooth i ddehongli arddangosfeydd. Treialwyd y systemau di-wifr a Bluetooth rhwng Chwefror a Hydref 2012 fel rhan o arddangosfa ‘Gemau heb Ffiniau’. Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso’r dechnoleg a ddefnyddiwyd, y defnydd ohoni, y wybodaeth ddadansoddol a chanlyniadau cyfweliadau â’r cyhoedd, cyn dod i casgliad a chynnig argymhellion yn sgil y wybodaeth a gasglwyd.

Gallai ymwelwyr ddefnyddio eu dyfais symudol eu hunain, neu lechi a ddarparwyd gan yr Amgueddfa i bori drwy haenau dehongli ar ffurf testun, sain a fideo. Gwerthuswyd ffwythiant y dechnoleg di-wifr a Bluetooth yn yr adroddiad hwn, ac er taw dim ond gwybodaeth ddadansoddol Bluetooth oedd ar gael i’w hastudio’n fanwl, daethpwyd i gasgliadau clir iawn sy’n llywio profion ehangach yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.