Cymru - Y Wlad Ddiwydiannol Gyntaf

Agorodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis Hydref 2005. Roedd yn elfen allweddol o strategaeth ddiwydiannol Amgueddfa Cymru ar gyfer casglu, arddangos a sicrhau mynediad i'r casgliadau diwydiannol.

Datblygwyd y strategaeth a'r amgueddfa newydd ar ôl ymgynghori â chyrff ac unigolion â diddordeb ledled Cymru, a sefydlwyd partneriaethau newydd, fel cydweithio â'r awdurdod lleol - Dinas a Sir Abertawe, er mwyn sicrhau y byddem, gyda'n gilydd, yn gallu diogelu a rhannu treftadaeth ddiwydiannol Cymru.

Bu'r ddogfen ymgynghori wreiddiol o gymorth i greu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac mae'n parhau i ddatblygu ffyrdd arloesol o ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd, y gymuned leol, grwpiau cymuned a rhanddeiliaid allweddol yn ein cynlluniau. Un enghraifft o'r datblygiad parhaus hwn oedd arddangosfa 2007, Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth oedd yn nodi faint o fusnesau hynaf Cymru gafodd eu cychwyn trwy ddefnyddio elw o'r fasnach gaethweision ryngwladol.

»

Rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau