Gŵyl Archaeoleg Prydain, haf 2009

Cafodd Gŵyl Archaeoleg Prydain ei chydgysylltu gan y Cyngor Archaeoleg Brydeinig fel ffordd o gyflwyno archaeoleg i'r cyhoedd, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ysbrydoli, ymgysylltu a mwynhau.

Roedd tri o safleoedd Amgueddfa Cymru yn rhan o ŵyl 2009: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Nod pwysig yn Sain Ffagan oedd gweld sut y gallai'r gweithgareddau hyn gyfrannu'n gadarnhaol at brofiad ymwelwyr â'r Amgueddfa yn y dyfodol yn ogystal â meithrin dull arbrofol o weithio.

Comisiynwyd arbenigwyr allanol i weithio law yn llaw â staff yr Amgueddfa o'r adran Archaeoleg a Niwmismateg, Dysgu, yr Uned Adeiladau Hanesyddol a chrefftwyr, gyda chymorth staff Digwyddiadau, cynorthwywyr yr Amgueddfa, curaduron yr adran Bywyd Gwerin a grŵp newydd o wirfoddolwyr ifanc yr Amgueddfa. Cafodd ymwelwyr gyfle i fynegi barn ar y gweithgareddau a'r digwyddiad yn gyffredinol.

Holwyd ymwelwyr yn ystod yr ŵyl, gyda phwyslais ar ddigwyddiadau Sain Ffagan yn bennaf. Cynhaliwyd cyfweliadau meincnodi hefyd yn oriel Gwreiddiau, rhesdai Rhyd-y-car a'r Pentref Celtaidd ar ddyddiau heblaw dyddiau'r ŵyl.

Teuluoedd ar wibdaith diwrnod oedd y rhan fwyaf o'r ymwelwyr, ac roedd hi'n amlwg eu bod yn gwerthfawrogi'r gweithgareddau a oedd yn creu profiadau cofiadwy iddynt. Yr hyn oedd yn bwysig oedd i'r project helpu i ddangos potensial archaeoleg i gyfrannu ac ychwanegu at brofiadau cyffredinol ymwelwyr Sain Ffagan. Sefydlwyd perthynas newydd rhwng staff a gwirfoddolwyr, ac roedd pawb yn gefnogol iawn i'r syniad.