Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru — Arddangosfa Rhythm y Rhufeiniaid: pa arddull sydd orau?

Rhythm y Rhufeiniaid
Rhythm y Rhufeiniaid

Fel rhan o raglen Cerdd 09, cyflwynodd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru arddangosfa dros dro er mwyn helpu ymwelwyr i ddeall sut a ble'r oedd pobl yn gwrando ar gerddoriaeth yn oes y Rhufeiniaid.

Roedd yr arddangosfa'n cynnwys paneli testun, casyn arddangos a ffilm fer a oedd yn rhoi cyfle i'r ymwelwyr wrando ar offerynnau cerdd. Roedd yr Amgueddfa'n awyddus i sicrhau bod y paneli dehongli yn apelio cymaint â phosib at gynulleidfa darged yr arddangosfa: sef pobl sy'n ymweld â'r Amgueddfa er diddordeb cyffredinol.

Paratowyd tair fersiwn o'r paneli dehongli, bob un ag arddull a chynllun gwahanol, a gwahoddwyd aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan mewn sesiynau arbennig lle y cofnodwyd eu sylwadau. Roedd y sesiynau'n amrywio o gyfweliadau unigol i grwpiau o bedwar, ac yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau penodol ac agored. Defnyddiwyd y canlyniadau i helpu i greu'r drafft terfynol o'r paneli dehongli.

Mae gwerthusiadau diweddar yn awgrymu fod y panel dehongli wedi ymgysylltu'n llwyddiannus â'r ymwelwyr a'u helpu i ddysgu am gerddoriaeth yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

»

Rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru