Ymgynghori â'r cyhoedd i lywio'n cyfraniad at ddigwyddiadau cenedlaethol

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2008 cawsom gyfle i glywed beth sydd fwyaf llwyddiannus ac o ddiddordeb i'r ymwelwyr.

Eich barn chiEin camau gweithredu ni
  • Roeddech chi'n hoffi digwyddiadau teuluol a gweithgareddau lle'r oedd plant yn gallu dysgu am yr Eisteddfod ac Amgueddfa Cymru, a chael sbort a sbri!
  • Roeddech chi'n hoffi dysgu am gysylltiadau Amgueddfa Cymru ag ardal yr Eisteddfod.
  • Roeddech chi'n hoffi sgwrsio â'r staff am wrthrychau ac atgofion a oedd yn bwysig i chi.

Yn 2010, aethom ati i drefnu pob math o weithgareddau i deuluoedd a phobl ifanc, a hyrwyddo Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre — yr Amgueddfa agosaf at Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron.

Eisteddfod

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 2009 buom yn trafod dyfodol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cyflwynwyd themâu allweddol i'r ymwelwyr:

  • Pobl a Lleoedd Hynafol
  • Adeiladau Byw
  • Bywyd Bob Dydd
  • Pobl a'r Amgylchedd
  • Cyfarfod a Chyfnewid
  • Gwrthdaro a Heddwch
  • Crefydd a Chred

Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i 120 o ymwelwyr dros wyth diwrnod, gan gynnwys:

  • Beth yw'r themâu pwysicaf ar gyfer amgueddfa genedlaethol yng Nghymru, wrth adrodd straeon pobl Cymru, i'n holl ymwelwyr — a pham?
  • Pa thema ydych chi'n ei hoffi fwyaf, a pham?
  • Pa themâu eraill fyddech chi'n eu dewis, a pham?

Llwyddwyd i gyflwyno'r project ailddatblygu, Creu Hanes, i'r ymwelwyr, a dweud wrthynt fod y casgliadau archaeolegol yn cael eu symud o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i Sain Ffagan. Manteisiodd llawer o ymwelwyr ar y cyfle i ailddatgan eu hedmygedd o Sain Ffagan fel lle i fynd â'u teuluoedd a'u ffrindiau am dro, gan bwysleisio'r meysydd allweddol sy'n bwysig iddynt.

Llwyddodd y digwyddiad i bwysleisio pa mor berthnasol yw Sain Ffagan — sydd yn ne-ddwyrain y wlad — i weddill Cymru.