Sut i gymryd rhan

Mae’r casgliadau yn eiddo i bobl Cymru ac yn cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth gan Amgueddfa Cymru. Os hoffech chi ein helpu ni i lywio dyfodol eich Amgueddfa, hoffem glywed gennych.

Gallwch gymryd rhan mewn tair ffordd:

  1. Dilyn y dolenni sydd yn ein gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd sydd ar y gweill, a chyfrannu at brojectau nawr
  2. Dweud wrthym beth yw'ch diddordebau drwy ddefnyddio'r ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi am brojectau'r dyfodol.
  3. Cysylltu â mi’n uniongyrchol am fwy o fanylion.

Diolch — edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Elaine J Cabuts
Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Polisi a Chynllunio Corfforaethol
Amgueddfa Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NP
Ffôn: +44(0)29 2057 3204
Ffacs: +44(0)29 2057 3321

Nodwch eich diddordebau cyffredinol trwy lenwi'r ffurflen isod. Byddwn yn cysylltu â chi wedyn er mwyn trafod sut y gallwn ni gydweithio i lywio'ch amgueddfeydd cenedlaethol i'r dyfodol.