Ysbrydoli pobl, newid bywydau

Cynigion ar gyfer ein Gweledigaeth newydd o 2015 ymlaen

Dros y 12 mis diwethaf, mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn datblygu Gweledigaeth newydd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Mae 10 mlynedd wedi pasio ers i ni ddatblygu a chyhoeddi ein Gweledigaeth ddiwethaf. Rydym wedi cyflawni llawer ohoni, gan gynnwys creu Amgueddfa Gelf Genedlaethol ar lawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan greu 40% yn fwy o ofod arddangos. Cyflwynwyd cais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru a bellach mae project ailddatblygu gwerth £25.5 miliwn yn mynd rhagddo yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Mae’r byd wedi newid tipyn dros y degawd diwethaf hefyd. Rydym wedi ceisio datblygu Gweledigaeth newydd a fydd yn sicrhau perthnasedd ein gwaith dros y 10 mlynedd nesaf, gan gydnabod ein llwyddiannau allweddol a’u datblygu ymhellach. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau â phrojectau mawr eraill, yn eu plith ailddatblygu Sain Ffagan a chreu Amgueddfa Genedlaethol Hanes Natur ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ein datganiad Gweledigaeth, ein pwrpas, ein hymrwymiadau a map arfaethedig. Hoffem glywed eich sylwadau am y ddogfen hon. Anfonwch eich adborth i gweledigaeth@amgueddfacymru.ac.uk erbyn 15 Mawrth 2015 os gwelwch yn dda. Gofynnwn i chi ganolbwyntio ar y cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw eich barn am ein datganiad Gweledigaeth ar gyfer y degawd nesaf?
  2. Ydych chi o’r farn fod ein datganiad o bwrpas yn esbonio rôl Amgueddfa Cymru yn llawn?
  3. Ai dyma’r amcanion y byddech yn disgwyl i Amgueddfa Cymru eu cyflawni dros y degawd nesaf yng Nghymru? A oes unrhyw amcanion lefel uchel eraill y dylem eu hystyried?
  4. Ar fap y Weledigaeth, nodir ‘sut y byddwn yn eu cyflawni’ a ‘sut y byddwn yn newid’ – dyma’r sail i gyflawni ein hymrwymiadau. A allech chi gydweithio â ni i gyflawni’r ddau grŵp yma o amcanion? Os felly, pa amcanion, a sut?

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych. Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth a’ch cefnogaeth wrth i ni groesawu cyfleoedd newydd a pharhau i weddnewid Amgueddfa Cymru yn gorff cynaliadwy sy’n darparu ystod o wasanaethau a gweithgareddau perthnasol i bobl Cymru dros y degawd nesaf a thu hwnt. Bydd eich cyfraniad chi yn helpu i lywio datblygiad Cynllun Strategol manylach.

David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol