Nid oes eitemau yn eich basged Desg dalu

Celf a Chyfoeth Cenedl: casgliad celf Stoutzker yng Nghymru

Pris £18
Argaeledd Mewn stoc

Celf a Chyfoeth Cenedl: casgliad celf Stoutzker yng Nghymru

£18
Argaeledd Mewn stoc

Mae'r llyfr hardd hwn yn nodi achlysur arddangosfa arbennig iawn. Yn 2017 daeth 32 o weithiau celf ar fenthyg i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma weithred ryfeddol o haelioni gan berchnogion y casgliad, Ian a Mercedes Stoutzker.

Cyhoeddwyd y gyfrol arbennig hon i ddathlu’r arddangosfa. Mae'r artistiaid yn cynnwys Francis Bacon, Henry Moore a Barbara Hepworth, Grayson Perry, Peter Doig a Rachel Whiteread. Mae'n gyfle unigryw i fwynhau casgliad preifat rhagorol o gelf fodern Brydeinig.

Mae'r llyfr hefyd yn trafod sut y gall gweledigaeth a haelioni casglwyr preifat helpu sefydliadau cyhoeddus fel Amgueddfa Cymru i gynnig i bawb brofiadau arloesol sy’n gweddnewid meddylfryd.

Croesawyd mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen i’r arddangosfa O Bacon i Doig. Dyma eich cyfle chi hefyd i'w fwynhau.

Fformat: clawr caled, dwyieithog (teitl Saesneg - From Private to Public: the Stoutzker art collection in Wales)

(Mae arddangosfa O Bacon i Doig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan fis Mawrth 2018. Mae mynediad am ddim.)

Awdur: Gol. Andrew Renton
Blwyddyn cyhoeddi: 2017
ISBN: 978-0-7200-0641-4
Rhwymiad: Clawr caled
Nifer o dudalennau: 96
Wedi'i Ychwanegu at y fasged
Desg dalu
* Please select a date and time.