Nid oes eitemau yn eich basged Desg dalu

Catalog arddangosfa Kizuna: Japan, Cymru, Dylunio

Pris £20
Argaeledd Mewn stoc
Postio am ddim

Catalog arddangosfa Kizuna: Japan, Cymru, Dylunio

£20
Argaeledd Mewn stoc

Rhag-archebwch gatalog Kizuna yma! Dyddiad dosbarthu (amcangyfrif): 13-16 Gorffennaf.

Mae'r catalog hardd, 144-tudalen, lliw llawn hon yn ganllaw hanfodol i'r arddangosfa Kizuna: Japan | Cymru | Dylunio (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 16 Mehefin–9 Medi 2018). Caiff uchafbwyntiau'r arddangosfa eu dathlu gyda ffotograffau lliw tudalen llawn yn datgelu manylder, harddwch a saernïaeth y gwrthrychau hanesyddol hyn. Mae dros 140 gwrthrych o'r arddangosfa i'w gweld, gan gynnwys eitemau bregus a fydd i'w gweld yn yr arddangosfa am gyfnod penodedig yn unig. Mae gwybodaeth ychwanegol yn trafod pynciau gan gynnwys arwyddocâd dyluniad y kimono, ystyr y ddefod de a datblygiad sydyn dylunio modern yn Japan.

Mae Kizuna: Japan | Cymru | Dylunio yn edrych ar sut y swynwyd y byd gan gelf a dylunio Japan. O brintiau enwog Hiroshige a chleddyfau samurai, i gasys ffôn symudol wedi'u addurno â llaw – mae sgiliau Japaneaidd o'n cwmpas ym mhob man. Mae'r catalog yn ddathliad o'r stori hon.

Wedi'i Ychwanegu at y fasged
Desg dalu
* Please select a date and time.