Celf ar y Cyd
Cysylltwch â'r celfyddydau gweledol yng Nghymru drwy
Grŵp o bedwar prosiect yw Celf ar y Cyd sydd wedi'u datblygu i rannu y celfyddydau ar draws Cymru mewn ymateb i'r argyfwng iechyd presennol. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth gan Llywodraeth Cymru.

Ysbrydolwyd y gwaith gan ethos ac ystyr llythrennol Celf Ar Y Cyd gan Rithika Pandey fel rhan o alwad am artist, i greu brand ar gyfer Celf ar y Cyd.
- Helpwch i guradu arddangosfa o waith celf yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru ac mewn orielau ledled Cymru drwy Art 100 Celf. Dywedwch wrthym beth ddylai fod yn cael ei arddangos yn eich barn chi drwy hoffi’r gweithiau celf neu drwy adael sylwadau.
- Cylchgrawn celfyddydau digidol newydd – Cynfas – sy’n ennyn lleisiau newydd ac amrywiol o amgylch casgliadau celf Amgueddfa Cymru.
- Cyfres o gomisiynau celf newydd yn gofyn i artistiaid o Gymru weithio gyda'u cymunedau eu hunain i ymateb i'r argyfwng iechyd.
- Mae ysbytai maes wedi'u troi'n orielau, ac mae adnoddau celf mewn iechyd newydd wedi'u datblygu ar gyfer staff y GIG i helpu cleifion i wella.
hefyd...
Archwilio'r Orielau Celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:
Amgueddfa Genedlaethol Caerdyff: Orielau Celf