: Ysgolion

Wedi lansio: Bylbcast 2024

Penny Dacey, 2 Chwefror 2024

Annwyl Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwy'n gyffrous i gyhoeddi lansiad o gystadleuaeth newydd ar gyfer pawb sy'n cymryd rhan yn Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion.

Rwyf wedi atodi canllaw defnyddiol a all fod eich llawlyfr ar gyfer cwblhau'r her hon.

Mae yna hefyd gyflwyniad fideo i weld yma:

Wnewch eich fideos tua 30 eiliad hyr a rhannwch dros Twitter neu drwy e-bost erbyn 22 Mawrth.

Rwy'n edrych ymlaen at weld beth rydych chi'n ei greu!

Pob lwc Cyfeillion y Gwanwyn!

Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion - cyrraedd 175 o ysgolion!

Penny Dacey, 17 Mai 2023

Mae Penny Dacey, Cydlynydd Project Bylbiau’r Gwanwyn, wedi bod yn brysur yn helpu gwyddonwyr ifanc i fynd allan ac ymchwilio i effaith y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd ddifyr a chreadigol!


Efallai bod llawer ohonoch chi wedi clywed am broject Bylbiau’r Gwanwyn, sydd ar waith ers 2005. Os nad ydych chi’n yn gyfarwydd â’r hanes, dyma sy’n digwydd, yn fras. Bydd disgyblion ysgol yn helpu Athro’r Ardd, gwyddonydd cartŵn cyfeillgar, i archwilio effaith newid hinsawdd ar ddyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy gymryd rhan mewn astudiaeth flynyddol gan gofnodi a chyflwyno data am y tywydd a blodau.


Sut y dechreuodd a sut mae’n mynd...

Dechreuodd y project yng Nghymru gan Danielle Cowell, Rheolwr Rhaglen Dysgu Digidol , ond drwy gyllid gan Ymddiriedolaeth Edina mae wedi ehangu ledled gwledydd Prydain. Mae Amgueddfa Cymru
bellach mewn cysylltiad â 175 o ysgolion bob blwyddyn drwy Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion! Dipyn go lew o fylbiau felly!


Yr ochr wyddonol

Bydd ysgolion sy’n cyfrannu at yr ymchwiliad yn cymryd rhan am flwyddyn academaidd lawn. Cânt eu pecynnau adnoddau tua diwedd Medi er mwyn plannu eu bylbiau ar 20 Hydref a gwneud cofnodion tywydd o 1 Tachwedd hyd at 31 Mawrth. Gofynnir i ysgolion wneud cofnodion tywydd (darlleniadau tymheredd a glaw) am bob diwrnod ysgol, ac uwchlwytho’r data hyn i wefan Amgueddfa Cymru ar ddiwedd pob wythnos. Gofynnir hefyd iddyn nhw fonitro’u planhigion a chofnodi dyddiad blodeuo ac uchder eu planhigion ar y dyddiad hwnnw i’r wefan. Y canlyniad yw y gallwn ni bellach gymharu dyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon â rhai blynyddoedd blaenorol a gweld sut y gallai patrymau tywydd newidiol fod wedi effeithio ar y dyddiadau hyn. Gwych, ynde?

 

Gwneud gwahaniaeth! Dysgu sgiliau gwyddonol a hybu lles

Mae’r ymchwiliad yn cefnogi datblygiad gwybodaeth a sgiliau gwyddonol, gan gynnwys deall twf planhigion, effaith newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd, a chasglu a dadansoddi data. Gall disgyblion gymhwyso dulliau a chysyniadau gwyddonol i sefyllfa go iawn, sy’n eu helpu i ddeall pwysigrwydd a pherthnasedd gwyddoniaeth yn eu bywydau. Mae’r broses o ofalu am eu planhigion, bod allan yn yr awyr agored (ym mhob tywydd) a gweithio gyda’i gilydd i gasglu’r data yn rhoi nifer o fanteision, o ran eu lles ac o ran datblygu cysylltiadau gydol oes â byd natur.


Ydych chi’n gwybod am unrhyw ysgolion fyddai’n hoffi cymryd rhan?

Bydd ceisiadau’n agor i ysgolion yng Nghymru ddiwedd mis Ebrill, ar sail y cyntaf i’r
felin. Os gwyddoch chi am unrhyw ysgolion fyddai’n hoffi cymryd rhan, gofynnwch
iddyn nhw edrych ar y tudalennau isod am fwy o wybodaeth:
Gwefan Bylbiau’r Gwanwyn
Blog Bylbiau’r Gwanwyn
Bylbiau’r Gwanwyn ar Twitter

Caring for nature this May

Penny Dacey, 3 Mai 2023

Hi Bulb Buddies,

I hope it’s been a lovely, sunny start to May where you are.  The weather is getting warmer, and the days are getting longer. Here are a few things you can do to care for nature in May:

Go on a nature walk

Take a walk in your local park, woods, or countryside. Observe the different types of trees, flowers, and insects you come across. You could even take a notebook to draw and write about what you see. Why not practice mindfulness while you are outdoors, and really listen, look, smell and feel your surroundings. This Mindful Tour resource is developed for the gardens at St Fagans National Museum of History, but it contains some fantastic tips that can be applied to any mindful walk. 

Plant a garden

You don't need a big garden to grow plants. You could plant flowers in a pot or even in an old shoe! Why not create an up-cycled plant pot? You could do some research into pollinators to see which plants best support them. Pollinators like bees and butterflies are essential to the survival of plants and ecosystems but they are under threat because of habitat loss, climate change and pollution. Schools that entered weather and flower data to the Amgueddfa Cymru website will receive seeds that will help to support pollinators. 

Be mindful of water

Water is essential for all living things, but we should try to conserve it. Some ways you could do this are by turning off the tap while you brush your teeth, taking shorter showers or re-using water from the washing-up to water your plants! You can also help nature by making sure there is water in your garden or school grounds, such as in the form of a small pond or a birdbath. The bird spotting sheets on the right can help you to identify any common garden birds you might see. 

No Mow May

Some of you may have heard of the campaign #NoMowMay where people are asked to not mow sections of their garden this month to help wildlife. You may notice more areas that are left to grow wild over the coming weeks, and this campaign may be why. Be mindful of these spaces and the wild plants, insects and animals that might be making them their home. There are some areas that will adopt this approach throughout the summer, and councils are being encouraged to follow suit and leave safe spaces for wildlife. Maybe you could ask your school if they will support this by leaving an area of the grounds un-mowed? Maybe you could plant any pollinator seeds you receive for taking part in the Spring Bulbs for Schools Investigation in this space? 

There are many other small actions that can be taken to make a difference to our local spaces. Why not share any further ideas you have for exploring or conserving nature in the comments section below? Remember, every action helps when it comes to protecting our planet. So, get outside, explore, have fun, and make a difference! 

Professor Plant

Sut i fesur eira

Penny Dacey, 8 Mawrth 2023

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Diolch am rannu eich sylwadau gyda'r data tywydd wythnos dwytha. Rwy'n disgwyl y bydd rhai o sylwadau tywydd dydd Gwener yn sôn am eira, gan y bydd sawl ardal ar draws y DU wedi deffro i eira a rhew'r bore 'ma. Roeddwn i'n meddwl y gallai hyn fod yn amser da i esbonio sut mae meteorolegwyr (gwyddonwyr tywydd) yn mesur eira. 

Mae mesur faint o law sy’n disgyn yn hawdd o’i gymharu â mesur faint o eira sy’n disgyn. Fydd eira ddim yn bihafio! Bydd yn aml yn cael ei chwythu gan y gwynt ac yn lluwchio, sy’n golygu bod yr eira’n ddwfn mewn mannau ond yn llawer llai dafliad carreg i ffwrdd. Oherwydd bod yr eira’n disgyn yn anghyson, bydd y mesuriadau o’r llefydd yma’n anghywir. Dyna pam mae’n rhaid mesur mewn mannau gwastad, agored a ymhell o ble fydd eira’n lluwchio. Bydd eira hefyd yn chwarae gemau gyda’r Meteorolegwyr sy’n ceisio ei fesur, bydd yn toddi’n ddŵr, cyn rhewi fel iâ. Felly dyw’r eira sy’n cael ei fesur ddim bob tro yn cyfateb i faint o eira sydd wedi disgyn. Mae eira newydd yn disgyn ar ben eira hen hefyd, ac mae’n anodd dweud faint o eira sydd wedi disgyn o un diwrnod i’r llall. 

Mae’n rhaid i’r meteorolegwyr gofio holl driciau’r eira a meddwl am ffyrdd i ddarganfod faint o eira sydd wedi disgyn. Byddan nhw’n edrych ar gwymp eira (faint o eira sy’n disgyn mewn diwrnod) a dyfnder eira (cyfanswm dyfnder yr eira, hen a newydd). Un ffordd o fesur cwymp eira yw gyda ffon bren. Bydd y meteorolegwr yn gosod y pren mewn lleoliad agored lle na fydd eira’n lluwchio ac yn mesur yr eira bob chwech awr. Drwy glirio’r eira o’r pren ar ôl ei fesur, dim ond eira’r diwrnod hwnnw fydd yn cael ei fesur, a gall y gwyddonydd ddweud faint o eira sydd wedi cwympo ar y diwrnod hwnnw. 

Gallwn ni hefyd fesur eira wedi toddi ar ffurf ddŵr. Gallwch chi felly ddefnyddio’ch mesurydd glaw i fesur cwymp eira. Os taw dim ond ychydig o eira sy’n cwympo, bydd yn toddi yn y mesurydd beth bynnag, ond os yw hi’n bwrw’n drwm, ewch â’r mesurydd i mewn ac aros iddo doddi’n ddŵr. Gallwch chi wedyn fesur y ddŵr fel rydych chi wedi’i wneud bob wythnos, a’i gofnodi fel glawiad yn eich cofnodion tywydd. 

Os oes eira ar lawr a bod digon o amser i arbrofi, beth am fynd ati i fesur dyfnder yr eira? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw pren mesur (neu pren eira os ydych chi am siarad fel gwyddonydd gwych!). Gwthiwch y pren i’r eira tan ei fod yn cyffwrdd y ddaear a chofnodi pa mor ddwfn yw’r ddaear fesul centimetr. Rhaid i chi fesur o arwyneb gwastad (fel mainc) mewn lle agored lle nad yw’r eira’n lluwchio. Rhaid i chi gofnodi o leiaf tri mesuriad i gyfrifo dyfnder cyfartalog yr eira lleol. Cyfrifwch y cyfartaledd drwy adio’r cofnodion gwahanol a’u rhannu gyda’r nifer o gofnodion. Os ydw i’n cofnodi tri dyfnder o 7cm, 9cm a 6cm, rhaid i fi adio pob rhif (7 + 9 + 6 = 22) cyn rhannu gyda 3 (22 / 3 = 7.33). Dyfnder cyfartalog yr eira felly yw 7.33cm. 

Mae gorsafoedd tywydd fel y Swyddfa Dywydd (MET Office) wedi troi at dechnoleg i ddyfeisio dulliau newydd o fesur dyfnder eira. Edrychwch ar y llun o un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd. Mae nhw’n defnyddio synwyryddion laser i fesur dyfnder yr eira ar yr arwyneb gwastad. Gall meteorolegwyr gasglu data o bob cwr o’r wlad wrth wasgu botwm, llawer haws a mwy dibynadwy nag anfon pobl allan i’r oerfel gyda phren eira! Mae pob un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd i’w gweld ar y map, oes un yn agos atoch chi? 

Os yw hi wedi bwrw eira, cofiwch fesur y cwymp gyda’r mesurydd glaw neu’r dyfnder gyda phren eira a nodi’r canlyniadau fel ‘sylwadau’ wrth uwchlwytho eich cofnodion wythnosol. Bydd yn ddiddorol cymharu dyfnder yr eira â chwymp yr eira yn y mesurydd glaw! 

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn, 

Athro’r Ardd

Minecraft eich Amgueddfa – hoff weithgaredd teuluol y cyfnod clo

Danielle Cowell, 22 Hydref 2020

Mae Amgueddfa Cymru wedi ennill clod am ddarparu gweithgareddau llawn hwyl yn ystod y cyfnod clo yng Ngwobrau Cartref Amgueddfa Groesawgar Plant Mewn Amgueddfeydd.

Roedd yr amgueddfa yn un o bump a enillodd y wobr uchaf heddiw mewn seremoni wobrwyo ar-lein dan ofal yr wynebau cyfarwydd, Philip Mould a’r Athro Kate Williams.

Mae elusen Plant mewn Amgueddfeydd wedi cynnal ei Gwobrau Amgueddfa Groesawgar ers 15 mlynedd, gan gydnabod y lleoliadau treftadaeth mwyaf croesawgar i deuluoedd yn y DU. Eleni, fe grëwyd gwobr arbennig i gydnabod gwaith ac ymdrech rhyfeddol amgueddfeydd i addasu i’r cyfnod clo a pharhau i gefnogi teuluoedd. Dyma nhw’n gofyn i deuluoedd a sefydliadau rannu eu hoff weithgareddau cartref – ffilm, cwis, gêm, gweithdy crefft a llawer mwy!

Derbyniwyd dros 400 o enwebiadau o bob cwr o’r byd, ac ym mis Gorffennaf crëwyd rhestr fer o 26 amgueddfa gan banel o arbenigwyr. Dros yr haf bu teuluoedd yn profi’r gweithgareddau, a chyfunwyd eu hadborth a barn y panel arbenigwyr i ddewis enillwyr pob categori.

Amgueddfa Cymru enillodd wobr Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau am ein cystadleuaeth Minecraft dy Amgueddfa. 

‘Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cydnabyddiaeth am y fenter! Roedd y gwaith a gynhyrchodd y plant yn rhagorol! Mae’n amlwg eu bod nhw wedi rhoi cymaint o ymdrech i greu eu hamgueddfeydd eu hunain, a defnyddio cymaint o sgiliau. Yn bwysicach fyth, roedd y plant i gyd yn dweud cymaint oedden nhw wedi mwynhau creu eu hamgueddfeydd, a’r beirniaid i gyd wedi mwynhau ymweld!’ Danielle Cowell - Pennaeth Dysgu Digidol Amgueddfa Cymru.

Er bod y gystadleuaeth wedi dod i ben, gallwch chi gymryd rhan o hyd a chreu amgueddfa eich hun yn Minecraft. Lawrlwythwch y pecyn adnoddau a rhannwch eich amgueddfeydd ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i bawb fwynhau.

Dadlwythwch becyn adnoddau yma.

Rhannwch eich creadigaethau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol - fel y gall eraill fwynhau!

Mae'r fideo isod yn dangos cofnodion gan ein holl gyfranogwyr ac yn tynnu sylw at y ceisiadau buddugol.

Gellir gweld ceisiadau unigol ar wefan Casgliad Y Werin.

Dywedodd Philip Mould, gwerthwr celf, darlledwr a Llywydd Plant Mewn Amgueddfeydd: ‘Mae’n bleser dathlu heddiw sut mae amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth wedi camu i’r adwy a dod â diwylliant at deuluoedd yn y cyfnod anodd hwn. Yr hyn sy’n gyffredin rhwng ein henillwyr i gyd yw eu bod wedi dod â’r gorau o’i hamgueddfeydd i gynulleidfaoedd adref. Mae’r projectau yma wedi helpu gyda dysgu adref, yn ogystal â chefnogi lles a helpu pawb i fwynhau gyda’i gilydd. Llongyfarchiadau mawr i’n henillwyr teilwng i gyd.’

 

Rhestr lawn o hoff weithgareddau teuluol y cyfnod clo:

 

Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau

Clod Uchel

· Ditchling Museum of Art + Craft – Virtual Museum Club

Enillydd

· Amgueddfa Cymru - Minecraft dy Amgueddfa

 

Ffilm Orau

Clod Uchel

· University Museum of Zoology, Cambridge - Zoology Live! Online Festival

Enillydd

· Cooper Gallery, Barnsley - Wow Wednesdays

 

Gweithgaredd Gwefan Gorau

Clod Uchel

· National Galleries Scotland – Home is Where the Art is

Enillydd

· National Videogame Museum, Sheffield – Create Your Own Pixel Art Character

 

Gweithgaredd Digidol Rhyngwladol Gorau

Clod Uchel

· Andy Warhol Museum, USA – Warhol Making It Videos

Enillydd

· The Glucksman, Republic of Ireland – Creativity at Home

 

Ymdrech Ychwanegol

Clod Uchel

· Colchester and Ipswich Museums – Museum From Home Activity Packs

· Seven Stories: The National Centre for Children’s Books, Newcastle Upon Tyne – Something to Smile About: Supporting Families in East Newcastle

Enillydd

· The Whitworth, Manchester – Still Parents