Minecraft eich Amgueddfa!

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Amgueddfa Wlâ,n Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Diweddariad: Rydym wedi cael ceisiadau gwych o bob rhan o Gymru a thu hwnt! Mae'r safon yn wirioneddol anhygoel! Mae ymweld â'r amgueddfeydd rhithwir hyn wedi bod yn llawer o hwyl ac yn anrhydedd anhygoel! Diolch yn fawr i bawb a gymeroddran yng Nghystadleuaeth Minecraft Eich Amgueddfa!Gobeithio chi wedi mwynhau cymryd rhan gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau ymweld ach Amgueddfa! Gweler ein tudalen blog i weld cofnodion gan ein holl gyfranogwyr ac uchafbwyntiau'r ceisiadau buddugol.

Cystadleuaeth i blant 6-11 oed

Y her: Defnyddiwch eich dychymyg i adeiladu amgueddfa ddelfrydol yn Minecraft. Adeiladwch adeilad mawreddog a’i lenwi gyda’ch hoff 

wrthrychau. Gallwch chi ddewis unrhyw wrthrych o’n saith amgueddfa – deinosor, ceiniog Rufeinig neu dŷ o Sain Ffagan!

Gwobrau: Cyfle i ennill taith tu ôl i’r llenni i’r dosbarth cyfan yn eich hoff amgueddfa! (Pan fydd yr ysgolion yn ailagor)

Bydd gwobr i bob dosbarth blynyddoedd 2 i 6.