Swyddi yn Amgueddfa Cymru



casgliadau Molysgiaid
Staff Amgueddfa Cymru

Os ydych am gael blas ar hanes a diwylliant Cymru, go brin y cewch chi unrhyw le gwell na’r Amgueddfeydd Cenedlaethol. Mae saith amgueddfa i gyd, yn ogystal â chanolfan gasgliadau, wedi’u gwasgaru ar hyd a lled y wlad, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar ein treftadaeth amrywiol a chyfoethog. Darllenwch ragor amdanom a’r gwaith yr ydym yn ei wneud.

Ydych chi awydd gweithio i ni? Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal, ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Cymerwch gip ar ein swyddi gwag

Buddion i Staff

Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion, gan gynnwys:

  • Cynllun pensiwn hael gan gynnwys cyfraniad o 21.3% gan y cyflogwr
  • Polisi aswiriant bywyd nad oes angen cyfrannu ato
  • Hawl i wyliau blynyddol hael: 27 diwrnod, yn codi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd
  • Hawl estynedig i absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
  • Ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol

Darllenwch ragor am darllenwch ein canllaw ar lefelau’r Gymraeg.

Y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a dathlu’r Gymraeg. Mae rhai o’n swyddi yn gofyn i’r ymgeisydd feddu ar lefel benodol o sgiliau yn y Gymraeg. Os nad ydych yn sicr beth yw lefel eich Cymraeg ar hyn o bryd, darllenwch ein canllaw ar lefelau’r Gymraeg.

Cyfleoedd i Wirfoddoli

Heblaw ein swyddi gwag, rydym hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd diddorol eraill, gan gynnwys Gwirfoddoli, Lleoliadau Gwaith ac aelodaeth o’n Fforwm Ieuenctid. Mae sawl ffordd y gallwch gyfrannu at ein gwaith.

Ein cyfleoedd gwirfoddoli presennol

 

 

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Mind Cymru logo