Lleoliadau



Mae lleoliad yn gyfle gwych i ennill profiad a dysgu sgiliau newydd. Rydym yn cynnig dau fath o leoliad yma yn Amgueddfa Cymru:
Mae Lleoliadau Datblygu Sgiliau yn cynnig cyfle i bobl sydd â rhwystrau at gyflogaeth i ennill profiadau a sgiliau trosglwyddadwy. Rydym wedi gweithio gydag unigolion, elusennau a cholegau i greu lleoliadau ar gyfer pobl sydd ag awtistiaeth, syndrom Down, cyflyrau iechyd meddwl, yn ogystal â menywod sy’n agored i niwed, ffoaduriaid ac ati yn y gorffennol. Rydym yn gweithio’n agos gydag unigolion i deilwra lleoliadau i’w diddordebau a’u hanghenion. Mae Lleoliadau Datblygu Sgiliau yn aml yn cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i) un hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn yr wythnos yn yr Amgueddfa am hyd at 6 mis.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Lleoliad Datblygu Sgiliau, cysylltwch â'r Adran Gwirfoddoli dros e-bost neu ar 029 2057 3002. Soniwch am eich diddordeb mewn Lleoliad Datblygu Sgiliau gan nodi pa Amgueddfa/maes penodol sydd o ddiddordeb. Mae galw mawr am leoliadau, ac ni allwn sicrhau lleoliad i bawb.
Mae Lleoliadau Gwaith yn cael eu creu i bobl sy'n astudio tuag at gymhwyster. Mae Lleoliadau Gwaith yn gyfle i unigolion ennill profiad wrth weithio, gan archwilio opsiynau gyrfa a datblygu sgiliau ymarferol. Fel arfer, mae'r lleoliadau hyn yn gysylltiedig â chwrs neu fodiwl penodol.
Rydym yn hysbysebu pob Lleoliad Gwaith ar ein gwefan. Llenwch ffurflen gofrestru a’i hanfon atom ni os oes gennych chi ddiddordeb.
Cyfleoedd cyfredol
