Profiad Gwaith Ysgol
Wyt ti'n fyfyriwr coleg neu chweched dosbarth gyda diddordeb mewn hanes a threftadaeth? Eisiau dysgu am y swyddi a chyfleoedd gyrfa mewn amgueddfa?
Bydd profiad gwaith ar gael i fyfyrwyr chweched dosbarth (blwyddyn 12) a choleg ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru.
Byddwn yn cynnig un wythnos o brofiad gwaith yn ail neu drydedd wythnos mis Gorffennaf. Bydd angen i ti allu teithio i'r amgueddfa, er mae'n bosibl y gallwn ni gyfrannu at gost tocyn bws.
Rydyn ni'n chwilio am fyfyrwyr coleg a chweched dosbarth sydd:
- Â diddordeb yn hanes Cymru, ac yn arbennig hanes sy'n berthnasol i'r amgueddfa wyt ti’n ei dewis.
- Yn barod i gymryd rhan.
- Yn barod i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
Beth alli di ei gael o'r profiad?
Bydd cyfle i dreulio amser gyda gwahanol adrannau yn yr amgueddfa. Gallai hyn olygu cysgodi timau profiad ymwelwyr neu'r adran addysg, neu weithio tu ôl i'r llenni gyda'r timau marchnata, casgliadau neu guraduron. Bydd pob dydd yn wahanol, a byddi’n dysgu sut mae amgueddfa yn gweithio. Byddi’n helpu gyda tasgau fel:
- Croesawu a helpu ymwelwyr.
- Ysgrifennu deunydd marchnata, fel blog neu erthyglau.
- Ymchwil ar y cyfrifiadur neu gofnodi data.
- Helpu i baratoi gweithgareddau addysg.
- Llenwi silffoedd yn y siop.
- Cadwraeth neu lanhau casgliadau.
Sut i wneud cais?
Ailagor cyn bo hir.