Pobl Ifanc yn Amgueddfa Cymru

Ychydig o wybodaeth amdanom ni
Yn Amgueddfa Cymru rydyn ni am roi y gorffennol yn nwylo cenedlaethau’r dyfodol a gweithio gyda phobl ifanc i drafod beth sy’n berthnasol.
Rydym am roi llwyfan i’r talentau amrywiol yma yng Nghymru a thu hwnt, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n adrodd y straeon a’r hanesion perthnasol. Fel amgueddfa genedlaethol, rydym am fod yn lle i drafod a gweithredu – yn onest, ac eofn wrth wneud safiad. Rydym am feithrin creadigrwydd a thrafodaeth, gan gyflwyno treftadaeth yn ogystal â chelf a syniadau newydd.
Drwy raglen gydweithredol Bloedd Amgueddfa Cymru rydyn ni’n cydweithio â phobl ifanc 16-25 oed i arbrofi, creu a mentro.
Mae pobl ifanc yn cael cyfle yn Amgueddfa Cymru i gynllunio a darparu rhaglenni eu hunain ar gyfer pob math o gynulleidfaoedd. Mae’n gyfle iddynt lywio projectau, dangos eu gwaith a’u syniadau, a datblygu sgiliau a phrofiad yn y maes treftadaeth a chelf.
