Gweithio gydag eraill

Oriel y Parc, Tyddewi

Amgueddfa Stori Caerdydd

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rydym ni'n falch o'n hymrwymiad i sicrhau mynediad mor eang â phosib i’r casgliadau cenedlaethol.

Rydym ni wedi datblygu dau gynllun partneriaeth yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd ac orielau lleol Cymru:

Cyfoeth Cymru Gyfan

a

Celf Cymru Gyfan

.

Yn ogystal, rydym ni’n cydweithio’n agos mewn ffyrdd eraill gyda phartneriaid rhanbarthol allweddol trwy Gymru gan gynnwys Oriel y Parc, oriel Awdurdod Parc Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Stori Caerdydd.

Mae cynlluniau cyffrous arall yn cynnwys:

Agorodd Amgueddfa Stori Caerdydd, yr amgueddfa gyntaf yng Nghaerdydd sydd yn adrodd hanes y ddinas ei hun, ei drysau ar 1 Ebrill 2011.

Bu’r gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ers pedair mlynedd, a bu tîm Stori Caerdydd yn gweithio’n agos â staff Amgueddfa Cymru drwy gydol y gwaith.

Meddai Victoria Rogers, o Stori Caerdydd:

Chwaraeodd Amgueddfa Cymru rôl ymgynghorydd cefnogol gan ddarparu cyngor ar bopeth o fanyleb ein casys amgueddfa, y larymau a’r monitorau amgylchedd gorau a’r gweithdrefnau posibl ar gyfer staff blaen tŷ.

Y pleser pennaf o gydweithio â nhw yw ein bod wedi medru benthyg gwrthrychau o’r casgliad cenedlaethol i’w harddangos yn ein hamgueddfa. Mae gan Gaerdydd stori anhygoel i’w hadrodd, ond doedd dim lleoliad i adrodd yr hanes tan nawr.

Wrth greu ein horielau newydd buom yn ymgynghori tipyn â’r cyhoedd oedd yn frwd dros weld amgueddfa fyddai’n llawn gwrthrychau. Nid yw hyn yn dasg hawdd wrth adeiladu amgueddfa o ddim byd!

Mae cymorth ac ymroddiad Amgueddfa Cymru wedi ein galluogi i fenthyg gwrthrychau sydd heb gael eu gweld yng Nghaerdydd ers degawdau (neu fwy). Mae nhw ar ein silffoedd ni bellach, yn hytrach nag yn storfeydd Amgueddfa Cymru, syn beth da i ni, ein hymwelwyr ac Amgueddfa Cymru.

www.cardiffstory.com

Gwaith Partneriaeth Ehangach

Rydym ni’n parhau i feithrin perthnasau gyda lleoliadau a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, sy’n adeiladu ar y polisi hirdymor o roi benthyg i sefydliadau eraill ac ar y profiad o weithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, mae projectau partneriaeth a chyfnewid gydag amgueddfeydd cenedlaethol tu hwnt i Gymru wedi arwain at rannu strategaethau curadurol yn ogystal ag ehangu mynediad at wrthrychau.

Am ragor o wybodaeth ar weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, cysylltwch â Ulrike Smalley, Rheolwr Arddangosfeydd - Cymuned a Theithiol, ar (029) 20573363 neu ulrike.smalley@amgueddfacymru.ac.uk.