Lleoliadau Datblygu Sgiliau


Ydych chi’n teimlo bod rhywbeth yn eich rhwystro rhag datblygu sgiliau gwaith, neu’n bwrw eich hunanhyder? Efallai y gall Lleoliadau Datblygu Sgiliau eich helpu i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle a sgiliau trosglwyddadwy.

Mae Lleoliadau Datblygu Sgiliau’n cynnig cyfle gwerth chweil i bobl sydd:

  • 16 oed a throsodd
  • yn wynebu rhwystrau i gyflogaeth, er engraifft rhywun ag anabledd dysgu
  • ddim mewn addysg ffurfiol, yn gyflogedig neu yn cwblhau hyfforddiant
  • yn gallu gwneud y lleoliad yn annibynnol (cewch gefnogaeth mentor gan ein staff)

Gallwn ni weithio’n agos gyda chi i deilwra lleoliad i'ch diddordebau a'ch anghenion. Gallech chi gyfrannu hanner diwrnod i ddiwrnod llawn yr wythnos, am hyd at chwe mis – yn dibynnu ar y lleoliad a'ch anghenion chi.

Rydyn ni wedi gweithio gydag unigolion, elusennau a cholegau i ddarparu lleoliadau ar gyfer pobl awtistig, pobl ag anableddau dysgu, pobl â chyflyrau iechyd meddwl, ffoaduriaid a phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd (NEET). Sylwch nad yw’r rhestr hon yn gyfyngedig nac yn gyflawn.

Gallwn gynnig Lleoliadau Datblygu Sgiliau ym mhob un o’n hamgueddfeydd:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Eisiau mynd amdani?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Lleoliad Datblygu Sgiliau neu’n holi ar ran rhywun arall, e-bostiwch yr Adran Gwirfoddoli neu ffoniwch (029) 2057 3002. Nodwch eich diddordeb mewn Lleoliad Datblygu Sgiliau a pha Amgueddfa/maes sydd o ddiddordeb. Mae cryn alw am leoliadau, a gallwn ni ddim gwarantu lleoliad i bawb – ond fe wnawn ein gorau!

Mae Lleoliadau Datblygu Sgiliau yn cael eu llenwi ar sail ymholiad ar hyn o bryd. O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn hysbysebu os oes gennym agoriad penodol. Byddant yn cael eu hysbysebu yma.

Nid ydym yn hysbysebu unrhyw Leoliadau Datblygu Sgiliau ar hyn o bryd