Amgueddfa Wlân Cymru
Beth alla i wneud ar leoliad yma?
- Staff blaen tŷ cysgodol – gallai hyn fod yn croesawu ymwelwyr yn y dderbynfa ymwelwyr neu ar draws yr amgueddfa gyda chynorthwywyr yr amgueddfa, neu yn y siop.
Beth fydda i’n ei ennill o’r lleoliad yma?
- Profiad o weithio fel rhan o dîm mewn lleoliad cefnogol.
- Datblygu sgiliau seiliedig ar waith fel cyfathrebu, datrys problemau a chadw amser.
- Hwb hyder!
Oes angen i mi siarad Cymraeg i wneud y lleoliad yma?
- Ddim yn hanfodol – ond os ydych yn siaradwr Cymraeg byddai hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio neu ymarfer eich Cymraeg.
Beth arall sydd angen i mi ei ystyried?
- Hygyrchedd
- Mae trafnidiaeth gyhoeddus i Amgueddfa Wlân Cymru yn gyfyngedig – bydd angen i chi ystyried sut i gyrraedd yr Amgueddfa hon.
- Mae lleoliadau yn dibynnu ar argaeledd, ac ni allwn warantu lleoliad i bawb – ond fe wnawn ein gorau!
I gefnogi pobl ar leoliadau rydyn ni’n:
- ad-dalu costau teithio i’r Amgueddfa ac oddi yno.
- darparu unrhyw ddillad y gall fod eu hangen ar gyfer y rôl, er enghraifft oferôls, iwnifform, bŵts, ac ati
- cynnig gostyngiadau yn ein caffis a siopau
- darparu geirda ar ddiwedd y lleoliad.