Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae cyfleuster newid cewynnau babanod yn nhoiledau'r merched a thoiledau'r dynion yn yr Amgueddfa, ac yn y toiled anabl yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.
Mae 3 man parcio penodol ar gyfer pobl anabl yn y maes parcio cyntaf a welwch chi. Wedi i chi groesi'r bont, mae 2 fan parcio arall ar y ddôl.
Mae parcio am ddim.
Gofynnir i fysus stopio yn y maes parcio cyntaf er mwyn i'r teithwyr ddod oddi ar y bws yno. Yna gall y bws groesi'r bont a pharcio ym maes parcio'r ddôl.
Mae palmantau gwastad sy'n hwylus i bawb rhwng y maes parcio a'r Amgueddfa. Dylid nodi, fodd bynnag, bod y llwybr o'r ffordd i fynedfa'r Amgueddfa ar lethr am i lawr ac mae glaswellt rhwng maes parcio'r ddôl a'r fynedfa.
Mae dwy gadair olwyn ar gael, gofynnwch yn y siop. Y cyntaf i'r felin gaiff falu ac nid oes modd archebu cadair ymlaen llaw, er y byddwn ni'n ystyried unrhyw geisiadau.
Darperir amrywiaeth o seddi drwy’r Amgueddfa. Gofynnwch i aelod o staff os oes angen sedd arnoch mewn unrhyw leoliad arall.
Mae lifft i'r llawr cyntaf yn y prif adeilad.
Mae lifft-risiau ar gael yn y Sied Wau i chi gael gwylio gweithwyr Melin Teifi wrth eu gwaith.
Cofiwch os gwelwch yn dda mai adeilad hanesyddol yw'r Amgueddfa, ac mae'r llawr yn anwastad mewn rhai mannau.
Mae caffi a siop yr Amgueddfa yn hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn.
Lleolir toiledau i bobl anabl ger prif adeilad y dderbynfa ac yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.
Mae map o'r adeilad ar gael, sy'n nodi ardaloedd a all fod yn swnllyd. Mae'r map ar gael mewn sawl iaith.
Mae dehongliadau sain yn cyd-fynd â nifer o arddangosion yr Amgueddfa a defnyddir sain gefndirol yn rhai o'r orielau.
Mae lefel y golau yn yr oriel decstilau yn isel am resymau cadwraeth, ond mae'r llwybrau a'r paneli testun wedi eu goleuo'n glir.
Mae dolenni sain ar gael yn y dderbynfa/siop a'r caffi.
Mae deunyddiau ysgrifenedig o safon dda yn cyd-fynd â'r casgliadau.
Mae dehongliad gweledol o brif thema'r arddangosfa i'w weld yn glir.
Croesewir grwpiau ac unigolion ag anawsterau dysgu ac mae gweithgareddau arbennig ar gael ar eu cyfer os gwneir trefniadau ymlaen llaw.
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Mae croeso i gŵn ar y safle ond rhaid eu cadw ar dennyn byr.
Mae peiriannau hanesyddol swnllyd ar waith yn yr Amgueddfa. Dim ond cŵn tywys gaiff fynd i mewn i adeiladau'r Amgueddfa.
Caiff powlenni dŵr eu darparu wrth fynedfa'r Amgueddfa, ar gais.
Cyfrifoldeb y perchennog yw glanhau ar ôl eu ci/cŵn. Mae biniau yn yr ardd a'r maes parcio.