Dysgu yn Amgueddfa Wlân Cymru

Addysg yn Amgueddfa Wlân Cymru

Dewch i ddysgu am ddiwydiant gwlân ein gwlad yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Mae arddangosiadau’r Amgueddfa yn adrodd stori’r diwydiant gwlân drwy beiriannau sy’n gweithio, deunyddiau archif, arddangosiadau ymarferol a chyffrous ac oriel decstilau.

Mae ein holl raglenni o natur drawsgwricwlaidd ac wedi’u creu yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cymreig a’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd ein sesiynau’n canolbwyntio ar hanes, daearyddiaeth, gwyddoniaeth, celf, dylunio a thechnoleg a datblygu sgiliau allweddol y disgyblion. P’un ai’ch bod yn astudio’r diwydiant gwlân, y Chwyldro Diwydiannol, dillad, defnyddiau a’u nodweddion, pobl a gwaith yn y gorffennol neu’r ardal leol, bydd gan Amgueddfa Wlân Cymru rywbeth i’w gynnig i chi. Bydd ein tecstilau’n ysbrydoli eich projectau gwehyddu neu liwiau a phatrymau.