Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus.
Dim ond drwy rif archebu Amgueddfa Wlân Cymru y gellir gwneud archebion.
Dydd Mawrth–Dydd Sadwrn, 10am–5pm.
Rhaid goruchwylio grwpiau 16 oed neu iau drwy’r amser.
Cymarebau oedolyn/plentyn:
Yr Adran Addysg a Sgiliau sydd wedi awgrymu’r cymarebau hyn. Dylai arweinwyr grwpiau asesu’r risgiau ac ystyried lefel oruchwylio ddiogel ar gyfer eu grwpiau nhw.
Oherwydd gwaith adeiladu does dim lle parcio ar gyfer bysiau na choetsis. Os byddwch chi’n hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio'r Amgueddfa.
Os byddwch chi’n hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio'r Amgueddfa.
Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu gofynion ymwelwyr ag anghenion ychwanegol. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wybod pa ddarpariaeth sy’n bosib.
Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad dan do. Er hynny, cofiwch ddod â dillad addas ar gyfer pob tywydd os ydych chi’n dilyn Llwybr y Pentref.
Bydd staff yn barod i’ch croesawu wrth brif fynedfa’r Amgueddfa. Byddant yn cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os hoffech ddod â chinio i'w fwyta mewn man dan do dynodedig yn yr Amgueddfa. Gallwch fwyta cinio yn yr ardd os yw’n braf. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Dim bwyta nac yfed yn yr Amgueddfa.
Mae tŷ bach â mynediad i bobl anabl yn yr Amgueddfa a’r Ystordy Ymchwil, ein bloc addysg. Mae tai bach ar wahân i ddynion a menywod yn yr Amgueddfa a’r bloc Addysg ac maen nhw’n addas i blant. Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn nhai bach dynion a menywod yr Amgueddfa, ac yn y tŷ bach i bobl anabl yn y bloc Addysg.
Mae map ar gael o ddesg y dderbynfa.
Rhowch wybod i staff wrth archebu os hoffech le i storio cotiau a bagiau.
Mae croeso i ymwelwyr dynnu lluniau at ddibenion personol gydol yr ymweliad, ar ôl llofnodi ffurflen yn y dderbynfa.
Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol yn yr Orielau er cwrteisi i ymwelwyr eraill.
Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach a llyfrau. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau nad oes mwy na 6 phlentyn yn y siop ar y tro.
Rhaid i blant a phobl ifanc dan 16 oed fod dan oruchwyliaeth drwy’r amser.
Dim ysmygu yn unrhyw un o’r adeiladau.
Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.
Os bydd angen Cymorth Cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.
Dylai arweinwyr grŵp gysylltu â’r tîm Addysg os oes gan aelod o’r grŵp unrhyw anghenion meddygol penodol.
Os bydd tân, bydd larwm yn canu. Dylai’ch grŵp adael yr adeilad drwy ddilyn yr arwyddion i’r allanfa dân agosaf. Cewch gyfarwyddiadau gan aelod o’r staff.
Dywedwch wrth blant am roi gwybod i aelod o’r staff os ydyn nhw ar goll.
Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma .