Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae'r Polisi Ffotograffiaeth a Ffilmio hwn yn berthnasol i ymwelwyr, gwirfoddolwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr a chontractwyr. Mae'n berthnasol i bob safle ac ardal; yr orielau, ar yr ystad a thu ôl i'r llenni yn Amgueddfa Cymru.
Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i ffotograffwyr proffesiynol sydd wedi'u comisiynu gan Amgueddfa Cymru. Rhaid i ffotograffwyr a gomisiynir gydymffurfio â thelerau'r Cytundeb Gwasanaeth Proffesiynol y mae'n rhaid ei gwblhau, ei lofnodi a'i ddychwelyd cyn i unrhyw waith ffotograffiaeth ddechrau.
Rydyn ni am i'n gofodau ysbrydoli a chreu atgofion newydd, ac rydyn ni’n eich croesawu i dynnu lluniau. Fodd bynnag, rhaid i’r ffotograffiaeth fod at ddefnydd personol ac yn anfasnachol oni bai bod caniatâd ysgrifenedig wedi'i roi. Mae hyn yn berthnasol yn achos ffilmio hefyd.
Gall rhai eitemau sy'n cael eu harddangos yn yr orielau, ar yr ystad neu y tu ôl i'r llenni yn Amgueddfa Cymru fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau hawlfraint neu gallant fod yn eitemau ar fenthyg i Amgueddfa Cymru. Mewn achosion o'r fath, gwaherddir tynnu lluniau a ffilmio. Felly, ni chaniateir i wirfoddolwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr a chontractwyr dynnu lluniau neu ffilmio mewn mannau lle mae yna arwydd 'dim ffotograffiaeth na ffilmio'.
Pan fyddwch chi mewn ardaloedd nad ydyn nhw’n agored i’r cyhoedd, rhaid i ymwelwyr, gwirfoddolwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr a chontractwyr ofyn am ganiatâd y curadur, y tywysydd teithiau neu'r aelod o staff sy'n arwain y grŵp.
Wrth dynnu lluniau a ffilmio ar y safle, boed hynny yn ein horielau, ar yr ystad neu y tu ôl i'r llenni, efallai y bydd staff yn dod atoch ac yn gofyn i chi am ddibenion eich gweithgareddau. Mae Amgueddfa Cymru yn cadw'r hawl i ofyn i chi stopio os canfyddir eich bod yn torri'r polisi hwn.
Rydyn ni’n eich croesawu ac yn eich annog i rannu’ch delweddau ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol personol, fodd bynnag, ni ddylid defnyddio'r delweddau at unrhyw ddiben masnachol. Mae'r term masnachol yn golygu bod y defnydd er mantais fasnachol neu iawndal ariannol preifat. Mae enghreifftiau o ddefnydd masnachol yn cynnwys:
Rhaid i ymwelwyr, gwirfoddolwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr a chontractwyr gael caniatâd ysgrifenedig cyn defnyddio delweddau neu ffilmiau mewn unrhyw rinwedd fasnachol ac mae angen clirio’r caniatâd cyn y gall unrhyw ffotograffiaeth ddigwydd.
Os hoffech chi gynnal sesiwn ffotograffiaeth neu ffilmio ar unrhyw un o'n safleoedd at unrhyw ddefnydd masnachol, fel tynnu lluniau priodas neu ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau grŵp, rhaid gwneud trefniadau gyda'n tîm mewnol ymlaen llaw. Cysylltwch â llogi@amgueddfacymru.ac.uk
Gall gwirfoddolwyr, ymchwilwyr a myfyrwyr dynnu lluniau fel rhan o'u gwaith. Rhaid dilyn yr holl delerau a nodir ym mhob adran uchod. Yn bwysicaf oll, mae hyn yn cynnwys ceisio caniatâd cyn tynnu lluniau mewn mannau nad ydyn nhw’n fannau cyhoeddus.
Hefyd, rhaid i wirfoddolwyr, ymchwilwyr a myfyrwyr gael caniatâd ysgrifenedig gan Amgueddfa Cymru cyn cyhoeddi unrhyw luniau maen nhw wedi'u cymryd o'n safleoedd neu o’n casgliadau.
Gall gwirfoddolwyr, ymchwilwyr a myfyrwyr ddefnyddio eu lluniau eu hunain yn eu traethodau, gwaith cwrs, adroddiadau neu arddangosfeydd ar yr amod bod y cyflwyniadau hyn yn rhan annatod o'r cwrs y maen nhw’n ei ddilyn ac nad ydyn nhw’n fasnachol.
Nid yw arddangosfeydd dilynol, erthyglau masnachol neu adroddiadau yn dod o dan ddefnydd personol a rhaid cael caniatâd pellach.
Ym mhob achos rhaid cydnabod Amgueddfa Cymru:
CYMRAEG: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru SAESNEG: By permission of Amgueddfa Cymru — Museum Wales
Ar gyfer ymholiadau gan y wasg ynghylch delweddau a ffilmio: cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk
Ymholiadau ynghylch delweddau: delweddau@amgueddfacymru.ac.uk