Uchafbwyntiau

Cewch eich cyfareddu gan stori diwydiant gwlân Cymru

Yn y gorffennol, y diwydiant gwlân oedd diwydiant pwysicaf a mwyaf cyffredin Cymru. Ar un adeg, roedd pentref pert Dre-fach Felindre ynghanol harddwch Dyffryn Teifi yn ganolfan lewyrchus i'r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw'n 'Huddersfield Cymru'.

O ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19, bydd eich ymweliad yn wahanol i’r arfer.

Manylion

Yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd. Yno, gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, a sanau gwlân i ddynion a merched, a'u gwerthu i'r ardaloedd cyfagos - ac i bedwar ban byd..

Dilynwch y broses o Ddafad i Ddefnydd ac ymwelwch a'r adeiladau rhestredig y ffatri sydd wedi eu adnewyddwyd mewn ffordd sensitif a Peirianwaith Hanesyddol

Ein Crefftwyr

Ddafad i Ddefnydd

Peirianwaith Hanesyddol

Caiff teuluoedd hwyl yn dilyn llwybr y 'Stori Wlanog', gan greu eu cyfarwyddiadau eu hunain i wneud a defnyddio brethyn a rhoi cynnig ar waith cardio, nyddu a gwnïo ar eu ffordd.

Mae staff cyfeillgar yr Amgueddfa bob amser wrth law i ddangos sut mae pethau'n gweithio ac i ateb cwestiynau.

Gardd Liwurau

Os ydych chi'n hoff o tipyn o liw i'ch dillad a'ch addurn cartref, efallai bydd ein Gardd Liwurau o ddiddordeb. Mae'r ardd gynaliadwy hon yn llawn planhigion a ddefnyddir yn draddodiadol ar gyfer gwneud liwurau naturiol ac mae ein Gwirfoddolwyr Gardd gwych yn gofalu'n ofalus amdanynt. Mae blodau, dail a gwreiddiau'n cael eu cynaeafu wrth i'r tymor fynd yn ei flaen, a'i sychu neu ei rewi yn barod i'w defnyddio. Rydyn ni'n defnyddio'r rhain ar gyfer ein gweithdai hydrefol, i rannu sgiliau lliwio edafedd, cnu a ffabrig - cadwch lygad am newyddion o'r cyrsiau yma ar ein gwefan.

Mae Gwirfoddolwyr yr Ardd yn weithgar yn ein cymuned leol ac mae ein Gardd Liwurau wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd ers blynyddoedd lawer.