Ein Crefftwyr

Mae gwarchod sgiliau traddodiadol yn rhan bwysig o waith Amgueddfa Cymru, ond gyda gwlân yn ffasiynol unwaith eto oherwydd ei nodweddion naturiol a bioddiraddadwy, mae’n bosib y bydd ‘crefftau treftadaeth’ y diwydiant eto yn sgiliau pwysig i’n dyfodol. Rydym yn falch iawn felly, o gael hyfforddi tri Chrefftwr newydd i ddod â chasgliad ein Hamgueddfa’n fyw, ac o bosib i ddatblygu gweithgarwch masnachol fydd yn cefnogi ein heconomi wledig ac yn rhoi’r ardal nol wrth galon diwydiant gwlân y Deyrnas Unedig.

 
 
 
 

Dilynwch gynnydd ein crefftwyr wrth iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd a hogi eu crefftau...

Blog Crefftwyr