Canllawiau Mynediad
Audio Version

Symudedd
- Mae 4 man parcio penodol ar gyfer pobl anabl yn y maes parcio cyntaf a welwch chi, cyn croesi'r bont.
- Gofynnir i fysys adael teithwyr ar y ffordd y tu allan i'r fynedfa.
- Mae llwybr gwastad sy'n hwylus i bawb rhwng y maes parcio a'r amgueddfa. Dylid nodi, fodd bynnag, bod y llwybr o'r ffordd i fynedfa'r amgueddfa ychydig bach yn serth a bod yna laswellt rhwng y maes parcio gorlif a'r fynedfa.
- Mae dwy gadair olwyn ar gael yn y siop. Mater o'r cyntaf i'r felin gaiff falu yw hi ac nid oes modd eu harchebu ymlaen llaw, er y byddwn ni'n ystyried unrhyw geisiadau.
- Mae seddi ar gael mewn gwahanol leoliadau o gwmpas yr amgueddfa. Holwch aelod o staff os oes angen lle i eistedd mewn unrhyw leoliad arall.
- Mae lifft i'r llawr cyntaf yn y prif adeilad.
- Mae cadair esgyn ar gael yn y Sied Wau i chi gael gwylio gweithwyr Melin Teifi wrth eu gwaith.
Pobl â Nam ar eu Clyw
- Mae deunyddiau ysgrifenedig ansawdd uchel yn cyd-fynd â'r orielau a'r arddangosion.
- Mae dehongliad gweledol o brif thema'r arddangosfa i'w weld yn amlwg.
Pobl â Nam ar eu Golwg
- Mae dehongliadau sain yn cyd-fynd â nifer o arddangosion yr amgueddfa a defnyddir sain cefndir yn rhai o'r orielau.
- Rhaid cadw lefel y golau'n isel yn rhai o'r orielau am resymau cadwraeth, ond mae'r llwybrau a'r paneli testun wedi eu goleuo.
Anawsterau Dysgu
- Croesewir grwpiau ac unigolion ag anawsterau dysgu ac mae gweithgareddau arbennig ar gael ar eu cyfer os gwneir trefniadau ymlaen llaw.
Cyfleusterau
- Mae caffi a siop yr amgueddfa'n hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn.
- Lleolir toiledau'r anabl ger prif adeilad y dderbynfa ac yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.
- Mae cyfleuster newid cewynnau babanod yn nhoiledau'r merched yn yr amgueddfa.
Cŵn
- Mae croeso i gŵn ar y safle ar yr amod eu bod yn cael eu cadw ar dennyn byr.
- Gellir cael dysglau yfed o'r caffi os gwneir cais.
- Rhaid i gŵn adael y safle i wneud eu busnes. Gofynnwch i'r staff am gyngor.
Am resymau hanesyddol, nid yw ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig yn gallu mynd i bob rhan o bob un o'n hamgueddfeydd. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella'r sefyllfa lle bo modd. Os oes gennych ryw awgrymiadau a allai ein helpu i wneud hyn, rhowch wybod i aelod o'r staff neu ysgrifennwch at: —
Elizabeth Power, Swyddog Mynediad ac Amrywiaeth, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP