Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Beth alla i wneud ar leoliad yma?

  • Staff blaen tŷ cysgodol – gallai hyn fod yn yr orielau, yn yr atriwm, ar ddesg y dderbynfa neu o amgylch y safle yn yr adeiladau hanesyddol.
  • Staff cefn tŷ cysgodol – gallai hyn fod yn ddyletswyddau porthor, cadw tŷ a/neu dasgau cynnal a chadw cyffredinol.
  • Garddio – garddio yn ein gerddi hanesyddol fyddai hyn.

Beth fydda i’n ei ennill o’r lleoliad yma?

  • Profiad o weithio fel rhan o dîm mewn lleoliad cefnogol.
  • Datblygu sgiliau seiliedig ar waith fel cyfathrebu, datrys problemau a chadw amser.
  • Hwb hyder!

Oes angen i mi siarad Cymraeg i wneud y lleoliad yma?

  • Ar gyfer ein blaen tŷ – oes. Ar gyfer cefn y tŷ – nac oes.

Beth arall sydd angen i mi ei ystyried?

  • Hygyrchedd
  • Mae trafnidiaeth gyhoeddus i Sain Ffagan yn gyfyngedig iawn – bydd angen i chi ystyried sut i gyrraedd yr Amgueddfa hon.
  • Mae Sain Ffagan yn amgueddfa awyr agored felly efallai y bydd angen i chi wneud rhan neu’r cyfan o’ch lleoliad y tu allan.
  • Mae lleoliadau yn dibynnu ar argaeledd, ac ni allwn warantu lleoliad i bawb – ond fe wnawn ein gorau!

I gefnogi pobl ar leoliadau rydyn ni’n:

  • ad-dalu costau teithio i’r Amgueddfa ac oddi yno.
  • darparu unrhyw ddillad y gall fod eu hangen ar gyfer y rôl, er enghraifft oferôls, iwnifform, bŵts, ac ati
  • cynnig gostyngiadau yn ein caffis a siopau
  • darparu geirda ar ddiwedd y lleoliad.