Canllawiau Mynediad – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cyfleusterau newid babi
Ceir cyfleusterau newid babanod ger y Brif Fynedfa.
Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
Ceir mannau parcio arbennig ar gyfer ymwelwyr anabl yn y maes parcio, ger prif fynedfa'r amgueddfa. Ceir rampiau'n arwain at y fynedfa a'r siopau.
Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio, am ddim, os gofynnwch amdanynt, yn y prif gyntedd. Er na ellir trefnu rhag blaen i ddefnyddio'r cadeiriau hyn ac mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu, byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os cawn gais ymlaen llaw.
Gellir mynd i'r rhan fwyaf o'r safle mewn cadair olwyn. Fodd bynnag, gan fod rhai o'r adeiladau yn ein casgliad yn hen iawn, gall fod yn anodd mynd i fewn iddynt.
Mae'n werth nodi hefyd bod tirlun ochr y Castell yn serth mewn mannau ac yn gallu profi'n anodd i rai defnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Nodir y llwybrau haws ar yr arwyddbyst. Gellir prynu copi o fap yn egluro llwybrau addas i gadeiriau olwyn.
Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd i’r mannau bwyta, Y Gegin ac Y Gweithdy.
Ceir toiledau ar gyfer ymwelwyr anabl wrth y Brif Fynedfa, ger bythynnod Rhyd-y-car ac yn Iard y Castell.
Ymwelwyr dall neu rhannol ddall
Un o bleserau ymweld â Sain Ffagan yw clywed y synnau a ffroeni arogleuon ar safle mor amrywiol, o fara ffres yn y Becws a'r tannau agored yn y ffermdai i anifeiliaid y fferm.
Mae aelod o staff wrth law yn y rhan fwyaf o'r adeiladau ac mae llawer o grefftau ac arddangosiadau i'w gweld ar y safle. Bydd yn bleser gan ein staff esbonio'r technegau a'r sgiliau i chi.
Gall rhai rhannau o'r safle, fel y nant a'r llynnoedd, beri trafferth i bobl sydd â nam ar eu golwg. Gallwch holi am gyngor wrth y Dderbynfa cyn mynd allan i'r safle.
Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw
Mae byrddau gwybodaeth mawr ger yr adeiladau i gyd.
Anghenion dysgu ychwanegol
Mae'r arweinlyfr, sy'n cynnwys cynllun o'r safle, yn cyflwyno'r casgliad mewn ffordd glir a chryno sy'n cynnwys nifer o luniau a diagramau. Ceir mapiau mawr o'r safle yma a thraw yn yr amgueddfa.
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Cŵn
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn yr orielau, y tai hanesyddol na'r caffis.
Mae croeso i gŵn ym mhob ardal arall, ond rhaid eu cadw ar dennyn drwy'r amser.
Bydd powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.
Bydd 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.
Uned Lleoedd Newid
Mae dau doiled Changing Places ar gael gan gynnwys un sydd â gwely electronig ac offer codi yn ogystal â'r cyfleusterau arferol. Gofynnwch i aelod staff am fanylion os gwelwch yn dda.