Ymweld Am Ddim
Covid-19
Ein blaenoriaeth yw eich diogelwch chi, gwirfoddolwyr a’n staff. Rydym yn annog ymwelwyr i wisgo gorchudd wyneb, i ddefnyddio gorsafoedd glanhau dwylo a chadw pellter cymdeithasol.
Oriau Agor
Ar Agor 10am-5pm bob dydd
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Mynediad am ddim!
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk
Ydw i’n gallu dod a’r ci?
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn yr orielau, y tai hanesyddol na'r caffis.
Mae croeso i gŵn ym mhob ardal arall, ond rhaid eu cadw ar dennyn drwy'r amser.
Bydd powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.
Bydd 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.
Nodir
Ni chaniateir chwarae â phêl, beic, sgwteri ayyb ar y safle
Gallwch fynd â phram neu gadair wthio i mewn i Institiwt Oakdale, Eglwys Teilo Sant a Siop Gwalia ond nid oes modd mynd â nhw i mewn i’r rhan fwyaf o’n adeiladau hanesyddol.
Does dim hawl hedfan drôn heb awdurdod ar y safle
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £6 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Mynediad
Canllaw Mynediad
Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Grwpiau
Cyngor i gwmniau bysiauCefnogwch Ni
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.
Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal:
Dewch i ddarganfod stori Cymru