Cŵn

Ydych chi’n bwriadu ymweld â’r amgueddfa gyda’ch ci? Mae yna ddigonedd o lwybrau i’w darganfod – o lwybrau coediog i erddi ffurfiol.

Dyma ambell beth i’w cofio wrth ymweld gyda’ch ci:

1) Tennyn byr

Mae croeso i chi grwydro safle’r amgueddfa gyda’ch ci ar dennyn byr (sydd ddim yn ymestyn). Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi gyfnewid eich tennyn estynadwy neu dennyn hir am dennyn byr yn ein derbynfa.

Rhaid i gŵn fod ar dennyn bob amser.

2) Adeiladau Hanesyddol ac Orielau

Tra mae croeso i gŵn grwydro’r safle gyda chi, ni chewch chi fynd â’ch cŵn i mewn i’r adeiladau hanesyddol, orielau neu gaffis (ac eithrio cŵn cymorth).

3) Fferm

Mae gennym ni fferm ar y safle ac mae yno fridiau brodorol o ddefaid a gwartheg yn crwydro’n caeau. Cadwch eich cŵn ar dennyn bob amser.

I warchod ein defaid, ni chaniateir cŵn ar y buarth yn Llwyn-yr-eos yn ystod y tymor wyna (Chwefror i Ebrill).

4) Codwch faw eich ci

Helpwch ni i gadw’r amgueddfa’n daclus drwy godi baw eich ci os yw’n gwneud ei fusnes. Mae yna finiau baw ci ar draws y safle. Mae gennym ni hefyd rawiau baw ar gael yn y dderbynfa.

5) Byddwch yn ystyriol o eraill

Mae llawer o bobl wrth eu bodd â chŵn, ond mae rhai ymwelwyr yn eu hofni. Cadwch eich cŵn yn agos atoch chi a pheidiwch â’u gadael i redeg at, neu neidio ar, ymwelwyr eraill.