Uchafbwyntiau

Croeso i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae Sain Ffagan yn annwyl i bobl Cymru – dyma atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd y wlad. Amgueddfa’r bobl yw hi, yn adrodd hanes Cymru trwy fywydau bob dydd ei thrigolion.

Mynediad am ddim i'r Amgueddfa, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Castell Sain Ffagan

**Dim ond nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar y llawr gwaelod sydd ar agor i’r cyhoedd yn y Castell ar hyn o bryd.**

Agorwyd Sain Ffagan i'r cyhoedd am y tro cyntaf oll ar 1 Gorffennaf 1948. Saif ynghanol gerddi godidog Castell Sain Ffagan, y plasty hardd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gyflwynwyd fel rhodd i'r genedl gan Iarll Plymouth.

Y Castell a Gerddi
Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan

Yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf ailgodwyd dros 40 o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol ar y parcdir 100 erw. Ymysg yr adeiladau mai tai, ffermdy, ysgol, capel a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd.

Adeiladau Hanesyddol

Yn Sain Ffagan cewch weld hanes Cymru, ei rannu ag eraill, a helpu i’w greu hyd yn oed. Gallwch wneud hyn yn ein horielau trwy chwarae, rhannu ar-lein, a chreu â llaw. Mae’r orielau wedi eu creu gyda chymorth hael nifer fawr o unigolion, sefydliadau a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Yr Orielau
Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan

Crefftau a gweithgareddau traddodiadol sy'n bywiocu Sain Ffagan. Yn rhai o'r adeiladau mae crefftwyr wrth eu gwaith yn arfer eu crefftau traddodiadol. Yn aml mae modd prynu eu cynnyrch. Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau ar ein gwefan Rhagor. Gellir gweld bridiau cynhenid o anifeiliaid a ffowls yng nghaeau a buarthau'r ffermydd, lle ceir hefyd arddangosiadau dyddiol o dasgau ffermio. Gall ymwelwyr gael cipolwg ar dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru, a gellir clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn ddyddiol ymhlith y crefftwyr a'r dehonglwyr.

Amgueddfa Fyw
Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan

Gydol y flwyddyn, daw Sain Ffagan yn fyw yn llythrennol wrth i ni ddathlu gwyliau traddodiadol a digwyddiadau cerddoriaeth a dawns. Mae Sain Ffagan yn archwilio pob agwedd o'r ffordd yr oedd pobl Cymru'n byw, gweithio ac yn hamddena. Fel cenedlaethau o ymwelwyr o'ch blaen, byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ein dathliad o draddodiadau a ffyrdd o fyw Cymreig.

Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan

Dewch am dro trwy’n coedwig ffawydd a dysgwch ragor am fyd natur.

Archwilio Natur

Mae'r Amgueddfa yn y deg uchaf o restr atyniadau rhad ac am ddim y DU yn pleidlais defnyddwyr TripAdvisor, gwefan adolygu teithiau mwyaf y byd.