Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Beth alla i wneud ar leoliad yma?
- Staff blaen tŷ cysgodol – gallai hyn fod yn yr orielau, yn y brif neuadd neu ar ddesg y dderbynfa.
- Staff cefn tŷ cysgodol – gallai hyn fod yn ddyletswyddau porthor, cadw tŷ a/neu dasgau cynnal a chadw cyffredinol.
- Gweinyddol – gallai hyn fod yn gweithio mewn amgylchedd swyddfa yn gwneud tasgau gweinyddol sylfaenol.
Beth fydda i’n ei ennill o’r lleoliad yma?
- Profiad o weithio fel rhan o dîm mewn lleoliad cefnogol.
- Datblygu sgiliau seiliedig ar waith fel cyfathrebu, datrys problemau a chadw amser.
- Hwb hyder!
Oes angen i mi siarad Cymraeg i wneud y lleoliad yma?
- Ddim yn hanfodol
Beth arall sydd angen i mi ei ystyried?
- Hygyrchedd
- Sylwch fod y galw am leoliadau Datblygu Sgiliau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn uchel ac yn dibynnu ar argaeledd. Yn anffodus, ni allwn warantu lleoliad i bawb.
I gefnogi pobl ar leoliadau rydyn ni’n:
- ad-dalu costau teithio i’r Amgueddfa ac oddi yno.
- darparu unrhyw ddillad y gall fod eu hangen ar gyfer y rôl, er enghraifft oferôls, iwnifform, bŵts, ac ati
- cynnig gostyngiadau yn ein caffis a siopau
- darparu geirda ar ddiwedd y lleoliad.