Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Beth alla i wneud ar leoliad yma?

  • Staff blaen tŷ cysgodol – gallai hyn fod yn yr orielau, yn y brif neuadd neu ar ddesg y dderbynfa.
  • Staff cefn tŷ cysgodol – gallai hyn fod yn ddyletswyddau porthor, cadw tŷ a/neu dasgau cynnal a chadw cyffredinol.
  • Gweinyddol – gallai hyn fod yn gweithio mewn amgylchedd swyddfa yn gwneud tasgau gweinyddol sylfaenol.

Beth fydda i’n ei ennill o’r lleoliad yma?

  • Profiad o weithio fel rhan o dîm mewn lleoliad cefnogol.
  • Datblygu sgiliau seiliedig ar waith fel cyfathrebu, datrys problemau a chadw amser.
  • Hwb hyder!

Oes angen i mi siarad Cymraeg i wneud y lleoliad yma?

  • Ddim yn hanfodol

Beth arall sydd angen i mi ei ystyried?

  • Hygyrchedd
  • Sylwch fod y galw am leoliadau Datblygu Sgiliau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn uchel ac yn dibynnu ar argaeledd. Yn anffodus, ni allwn warantu lleoliad i bawb.

I gefnogi pobl ar leoliadau rydyn ni’n:

  • ad-dalu costau teithio i’r Amgueddfa ac oddi yno.
  • darparu unrhyw ddillad y gall fod eu hangen ar gyfer y rôl, er enghraifft oferôls, iwnifform, bŵts, ac ati
  • cynnig gostyngiadau yn ein caffis a siopau
  • darparu geirda ar ddiwedd y lleoliad.