Canllawiau Mynediad – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cyfleusterau newid babi
Mae cyfleusterau newid babi ar gael ym mwyty Oriel.
Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
Os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r grisiau wrth flaen yr Amgueddfa, gallwch ddefnyddio’r llwybr hygyrch.
Mae mannau parcio penodedig ar gyfer pobl â Bathodynnau Glas y tu ôl i'r Maes Parcio i Ymwelwyr, gyda hygyrchedd o Rodfa'r Amgueddfa. Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn a rheiny gyda chadeiriau gwthio neu bramiau gael mynediad drwy ffonio 029 2057 3300. Bydd aelod staff yr amgueddfa yn eich helpu i gael mynediad i'r adeilad. Os ydych yn dod ar draws anhawster, rhowch wybod i'n cynorthwywyr amgueddfa ar ben y grisiau o flaen yr adeilad.
Mae modd cyrraedd yr holl orielau mewn cadair olwyn. Gallwch chi fynd i'r rhan fwyaf o'r orielau ar eich pen eich hun, ond mae rhaid i Ofalydd weithio lifftiau mewn rhai orielau am resymau diogelwch. Mae arwyddion sy'n nodi ble mae pob lifft a sut mae'n gweithio. Bydd aelod o staff wrth law i'ch helpu chi.
Mae pedair cadair olwyn a chwe ffon eistedd ar gael i'w benthyg o'r ddesg wybodaeth ond i chi ofyn. Y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Mae amrywiaeth o seddi ar gael drwy'r Amgueddfa.
Cofiwch fod lefel y llawr yn anwastad drwy'r arddangosfa Esblygiad Cymru ac mewn rhai o orielau Hanes Natur, felly byddwch yn ofalus yn y llefydd hyn.
Mae platfform gwylio yn Narlithfa Reardon Smith gyda chwe lle penodol ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn. Mae mynediad i'r Ddarlithfa o gefn y Maes Parcio i Ymwelwyr neu drwy lwybr gwastad o Blas y Parc.
Mae'r siop, y siop goffi a bwyty Oriel yn hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn.
Mae toiledau hygyrch ym mwyty Oriel.
Ymwelwyr dall neu rhannol ddall
Gallwn gynnig teithiau Sain Ddisgrifiad am ddim i grwpiau, a chymorth tywys i unigolion. Rhaid rhoi gwybod ymlaen llaw. Ffoniwch ni i drafod eich anghenion (029) 2057 3240.
Mae sylwebaeth yn cyd-fynd â'r arddangosion gweledol yn oriel Esblygiad Cymru, Hanes Natur a Dyn a'r Amgylchedd.
Mae lefelau gofal isel yn rhai o'r orielau gwyddoniaeth natur ond mae'r llwybrau, paneli testun ac arddangosion wedi cael eu goleuo'n glir.
Mae llwybr cyffwrdd ar gael yn orielau Hanes Natur.
Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw
Mae dolen sain ar gael yn oriel Esblygiad Cymru, wrth y ddesg wybodaeth, ac wrth gownter y siop, y bwyty a'r siop goffi ac yn Theatr Reardon Smith. Mae dolen sain symudol ar gael i'w defnyddio yn y stafelloedd cyfarfod ac addysg.
Mae gan y rhan fwyaf o'r orielau ac arddangosion ddeunydd ysgrifenedig o safon uchel i gyd-fynd â'r casgliadau.
Anghenion dysgu ychwanegol
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Cŵn
Dim ond cŵn cymorth a gaiff ddod ar y safle.
Mae dŵr yfed ar gael ym mwyty Icons a'r siop goffi ond i chi ofyn.
Rhaid i gŵn adael y safle i wneud eu busnes a bydd staff wrth law i gynnig lleoliad addas.