Uchafbwyntiau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Celf a hanes natur o Safon Rhyngwladol.

Mae rhywbeth i syfrdanu pawb yma, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — rydym yn cynnal rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, a mae mynediad am ddim!

Yng nghanol canolfan ddinesig Caerdydd, fe ddowch o hyd i gartref casgliadau cenedlaethol Cymru mewn celf, daeareg a hanes natur.

Oriel gelf

Mae casgliad celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ymhlith y gorau yn Ewrop. Fe welwch ystod 500 mlynedd o beintiadau, darluniau, cerfluniau, arian a serameg o Gymru a'r byd, gan gynnwys un o casgliadau gorau Ewrop o weithiau'r Argraffiadwyr.

Yr Orielau Celf
Oriel Amgueddfa

Dilynwch daith hynod yn Esblygiad Cymru o ddechrau amser hyd heddiw. Mae'r stori'n dechrau yn y gofod gyda'r Glec Fawr cyn mynd â chi ar daith dros 4,600 miliwn o flynyddoedd i ddod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a mamothiaid gwlanog. Darganfyddwch sut esblygodd bywyd yng Nghymru a pha ddeinosoriaid oedd yn crwydro'r tir.

Orielau Esblygiad Cymru

Darganfyddwch Hanes Natur amrywiol Cymru ar daith o lan y môr i'r mynyddoedd. Gwelwch rhai o'r amgylcheddau unigryw sy'n gwneud Cymru'n gartref i dros 900 o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Orielau Hanes Natur

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rydym hefyd yn cynnal rhaglen gyffrous o arddangosfeydd dros-dro - edrychwch ar ein

canllaw Digwyddiadau i weld be sy' mlaen..

Edrychwch ar ddelweddau panoramig o un o'n harddangosfeydd diweddar, KIZUNA: Japan | Cymru | Dylunio.