Mae’r casgliad celf ymhlith y gorau yn Ewrop. 500 mlynedd o beintiadau, darluniau, cerfluniau, arian a serameg o Gymru a'r byd, gan gynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o weithiau’r Argraffiadwyr.
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dathlu ei chanmlwyddiant y flwyddyn nesaf ac rydyn ni’n edrych ar gyfleoedd i wella ac ailddatblygu’r adeilad ac i wella’r profiad i ymwelwyr.
Wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, hoffen ni ddeall beth sydd fwyaf o bwys i chi.