Crefftwaith Cyfoes

Hans Coper, fâs o grochenwaith caled, 1973

Hans Coper, fâs o grochenwaith caled, 1973

Betty Woodman, Diptych: y Balconi, priddwaith wedi’i beintio, 2008

Betty Woodman, Diptych: y Balconi, priddwaith wedi’i beintio, 2008

Mae'r Amgueddfa wedi casglu crefftwaith cyfoes er 1924 ac wedi datblygu casgliad cynrychiadol o grochenwaith stiwdio clasurol o'r 20fed ganrif gan grochenwyr megis Bernard Leach, Michael Cardew, Lucie Rie a Hans Coper.

Mae'r casgliadau hefyd yn adlewyrchu byd bywiog y crefftau yng Nghymru gan gynnwys enghreifftiau o serameg gan Walter Keeler, Morgen Hall, Michael Flynn, Claire Curneen ac eraill, gwaith arian gan Pamela Rawnsley ac esiamplau o emwaith, celfi a gwydr lliw wedi'u gwneud yng Nghymru.

Gellir gweld serameg gyfoes, bwysig o'r tu hwnt i Gymru hefyd gan gynnwys gwaith gan Edmund de Waal, Julian Stair, Carol McNicoll, Betty Woodman o'r Unol Daleithiau a Claudi Casanovas o Sbaen.

Mae'r Amgueddfa yn casglu gwydr a metelwaith cyfoes hefyd. Mae gennym wydr gan Colin Reid, Bruno Romanelli a Rachael Woodman yn y casgliad a metelwaith gan Hiroshi Suzuki, Junko Mori, Simone ten Hompel ac eraill.

Mae Ymddiriedolaeth P&O Makower wedi benthyg un o'i chasgliadau arian i'r Amgueddfa sy'n cynnwys gwaith gan Chris Knight, Ndidi Ekubia ac eraill.

Mae casglu crefftwaith cyfoes erbyn hyn yn flaenoriaeth i'r Amgueddfa. Rhoddwyd mwy o ofod arddangos i grefftwaith yn ddiweddar ac mae arddangosiadau'n cynnwys gwrthrychau ar fenthyg gan gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams.