Ymweld
Lifftiau, ac orielau'n cau
Rydym wedi cael problemau â'n lifftiau yn ddiweddar; fe all hyn arwain at gau orielau. Os hoffech weld oriel benodol, gwiriwch ei bod ar agor drwy ffonio (029) 2057 3339.
Trwsio'r to
Rydym yn parhau i fod ar agor i ymwelwyr (10am–5pm) tra bod gwaith yn mynd yn ei flaen i drwsio’r to.
Oriau Agor
Ar agor Dydd Mawrth–Dydd Sul, 10am–5pm. Orielau'n cau am 4:45pm.
Ar gau 24–26 Rhagfyr 2019 a 1 Ionawr 2020.
Os hoffech ymweld ag orielau penodol, ffoniwch i gadarnhau eu bod ar agor.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: caerdydd@amgueddfacymru.ac.uk
Bwyd a Diod
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rydyn ni'n ymfalchïo mewn darparu bwyd da o safon, sy'n cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol lle bo modd.
Grwpiau
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ac yn ceisio darparu profiad llawn mwynhad a boddhad. Dylai pob grŵp archebu cyn ymweld i’n galluogi i hwyluso'r ymweliad.
Teuluoedd
Beth bynnag fo’ch diddordebau, mae digon i blant ac oedolion ei fwynhau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar unrhyw ymweliad!
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Prynwch docyn o Siop yr Amgueddfa. mae'n costio £6.50. Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Ewch â’ch bathodyn i’r siop i gael tocyn parcio. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ffotograffiaeth
Caniateir tynnu ffotograffau yn yr orielau at ddefnydd personol, heb fod yn fasnachol, yn unig.
- Gwaherddir defnyddio fflach ym mhob achos.
- Gwaherddir defnyddio trybedd a ffon hunlun ym mhob achos.
- Gwaherddir tynnu ffotograffau mewn arddangosfeydd benthyg ym mhob achos.
- Gwaherddir tynnu ffotograffau o weddillion dynol ym mhob achos.
Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw sicrhau nad yw'n torri unrhyw hawlfraint.