Lleoliad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Lleoliad
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Ar droed/Ar feic
Mae’r Amgueddfa 20 munud ar droed o orsaf drenau Caerdydd Canolog.
Gwybodaeth beicioAr y Bws
O orsaf trenau Caerdydd Canolog, cerddwch i Wyndham Arcade, Heol Eglwys Fair ac ewch ar fws rhif 35 i'r Amgueddfa. O Fae Caerdydd ewch ar fws Bay Car rhif 6 i ganol y ddinas, ac yna ewch ar fws rhif 35 o Arcêd Wyndham. Neu, o orsaf drenau Bae Caerdydd, ewch ar y trên uniongyrchol i orsaf Heol y Frenhines a cherddwch 880 llath i’r Amgueddfa. Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Ar y Trên
Gorsaf Cathays yw’r orsaf agosaf at yr Amgueddfa, a gellir cerdded yno mewn tua 5 munud. Am fwy o wybodaeth am deithio yma ar y trên, ewch i Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol
Mae Great Western Railway yn darparu gwasanaethau trên cyflym rhyng-ddinasol a gwasanaethau rhanbarthol i orsaf Caerdydd Canolog.
Mewn Car
Cyffordd 32 o'r M4. Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post CF10 3NP.