Crochenwaith a Phorslen

Sévres, ystên hufen iâ, 1811-1814

Sévres, ystên hufen iâ, 1811-1814

Tebot porslen Meissen, wedi’i addurno gan Johann Gregorius Hoeroldt

Tebot porslen Meissen, wedi’i addurno gan Johann Gregorius Höroldt, 1723-1724

Mae'r Amgueddfa'n gartref i un o brif gasgliadau serameg y byd.

Gellir gweld pob math ar grochenwaith a phorslen o bob oed yma gan gynnwys crochenwaith o'r Aifft sy'n fwy na 5,000 oed a gwrthrychau newydd o odyn gwneuthurwyr cyfoes.

Mae pwyslais arbennig ar grochenwaith a phorslen Cymru, porslen Ewrop a serameg gyfoes. Mae crochenwaith a phorslen Cymru wastad wedi bod yn flaenoriaeth i'r Amgueddfa sydd am fod yn ganolfan wybodaeth ar frig y maes hwn.

Yn Oriel Joseph mae arddangosiad cynhwysfawr o grochenwaith a wnaethpwyd yn Abertawe a Llanelli 1764-1922 a phorslen prydferth a wnaethpwyd yn Abertawe a Nantgarw 1813-26.

Rhodd gan un dyn yn bennaf oedd ein casgliad gwych o borslen Ewrop sef bancwr o Sir Frycheiniog, Wilfred de Winton. Yn y cyfnod 1917-29 rhoddodd dros 3,000 o wrthrychau sy'n cynrychioli pob prif ffatri o Ewrop y 18fed ganrif.

Mae cynrychiolaeth dda iawn o borslen o'r Almaen a'r Iseldiroedd ac rydym yn ychwanegu o hyd at y maes hwn yn ein casgliad.

Hefyd mae gan yr Amgueddfa gasgliadau pwysig o grochenwaith a phorslen Lloegr, crochenwaith Ewrop gan gynnwys gweithiau gan Pablo Picasso, serameg Asia ddwyreiniol a chasgliad cynyddol o serameg gyfoes.