Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Lleoliadau Datblygu Sgiliau?

Mae'r lleoliadau hyn yn cael eu creu gyda chi. Gallwch chi anfon e-bost neu ffonio i holi am leoliad a byddwn ni’n ceisio creu cyfle i chi. Rhaid i chi fod dros 16 oed a bod â rhwystr i gyflogaeth fel anabledd dysgu neu gorfforol, cyflwr iechyd meddwl, neu efallai eich bod yn ffoadur neu nad ydych mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Fel arfer mae'r lleoliadau hyn am ychydig oriau un diwrnod yr wythnos am hyd at 6 mis. Gallwch chi gysylltu â ni neu mae croeso i rywun arall gysylltu ar eich rhan.

Beth yw Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr?

Mae'r lleoliadau hyn yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan ac ar gael i fyfyrwyr 16 oed a hŷn sy'n astudio ar gwrs. Gall y lleoliadau hyn fod yn rhan o ofynion cwrs neu ar gyfer eich datblygiad personol eich hun. Mae hyd ac ymrwymiad y lleoliadau hyn yn amrywio a nodir hynny yn y disgrifiad rôl – mae'r rhan fwyaf o'n Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr yn gallu bod yn hyblyg.

Ydych chi'n cynnig profiad gwaith yn unrhyw un o'ch amgueddfeydd?

Dydyn ni ddim yn cynnig profiad gwaith yn unrhyw un o'n safleoedd ar hyn o bryd. Os ydych chi'n berson ifanc (16-25) sydd eisiau cael profiad yn yr Amgueddfa, beth am ystyried cymryd rhan gyda Bloedd?

Dwi'n gweithio i brifysgol/coleg, all un o'm myfyrwyr ddod ar leoliad?

Dydyn ni ddim yn cynnig Lleoliadau Gwaith i Fyfyrwyr drwy ymholiad. Mae ein holl leoliadau gwaith myfyrwyr yn cael eu hysbysebu, a rhaid i fyfyrwyr ddilyn ein proses recriwtio i wneud cais.

Oes gennych chi gyfleoedd lleoliad â thâl/wedi’u hariannu?

Byddwn ni’n hysbysebu cyfleoedd lleoliad wedi’u hariannu ar ein gwefan pan fyddant ar gael.
Hefyd, ewch i dudalennau Ymchwil ein gwefan am gyfleoedd Ymchwil megis Lleoliadau PhD.
Hefyd, edrychwch ar dudalen Swyddi ein gwefan ar gyfer lleoliadau â thâl.

Dwi angen cymorth i gwblhau'r ffurflen ymholiad/cofrestru, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi angen cymorth ychwanegol i ddeall y ffurflen ymholi/cofrestru, e-bostiwch yr Adran Wirfoddoli gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk , neu ein ffonio ni ar (029) 2057 3002.
Gallwn ni lenwi'r ffurflen dros y ffôn gyda chi a gallwn dderbyn ceisiadau fideo neu glip sain byr. Cysylltwch i drafod.

Pa mor hygyrch yw eich rolau lleoliad?

Ein nod yw gwneud cymaint o'n rolau mor hygyrch â phosib. Rydyn ni'n ceisio cynnal ein sesiynau gwirfoddoli mewn ystafelloedd sy'n hygyrch a hawdd eu cyrraedd. Ond gan fod ein hamgueddfeydd yn cynnwys adeiladau hanesyddol neu yn adeiladau rhestredig eu hunain, efallai na fydd yn bosib bob tro.

Bydd pob disgrifiad swydd Lleoliad Gwaith Myfyrwyr yn nodi a oes unrhyw gyfyngiadau hygyrchedd neu bethau y gall fod angen i chi eu hystyried. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau glas i'w bodloni.

Mae Lleoliadau Datblygu Sgiliau’n cael eu creu gyda chi, felly rydyn ni'n ystyried eich anghenion hygyrchedd neu unrhyw addasiadau rhesymol o'r cychwyn cyntaf.

Oes angen i fi allu siarad Cymraeg i wneud lleoliad?

Does dim rhaid i chi allu siarad Cymraeg ar gyfer y rhan fwyaf o'n rolau. Os oes modd gwneud Lleoliad Gwaith Myfyrwyr drwy'r Gymraeg, bydd yr hysbyseb yn nodi hyn. Gallwn ni greu Lleoliadau Datblygu Sgiliau all gael eu cyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg, ond gallai hyn fod yn benodol i rai o'n safleoedd megis Sain Ffagan neu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Fydd rhaid i fi gael gwiriad gan yr heddlu?

Mae hyn yn dibynnu ar rôl y lleoliad a bydd yn cael ei nodi yn y disgrifiad rôl.

Sut ydych chi'n cadw fy ngwybodaeth bersonol yn ddiogel?

Rydyn ni'n cadw eich data personol yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddata. I gael gwybodaeth lawn edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd Gwirfoddolwr yma. Rydyn ni’n defnyddio’r holl wybodaeth rydyn ni’n gofyn amdani ar y ffurflen gofrestru a/neu ymholiad er mwyn gallu prosesu eich cais.

Allwch chi gadw fy ngwybodaeth? Oes gennych chi restr bostio?

Wrth gwrs, gallwch chi gofrestru ar gyfer ein Rhestr Bostio. Byddwn ni’n holi am eich diddordebau, a gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio'r blwch 'Gwirfoddoli' neu 'Lleoliadau' er mwyn derbyn e-bost yn llawn cyfleoedd newydd pan fyddan nhw’n cael eu hysbysebu. Gallwch chi atal y tansygrifiad unrhyw bryd.