Swyddi yn Amgueddfa Cymru
Os ydych am gael blas ar hanes a diwylliant Cymru, go brin y cewch chi unrhyw le gwell na’r Amgueddfeydd Cenedlaethol. Mae saith amgueddfa i gyd, yn ogystal â chanolfan gasgliadau, wedi’u gwasgaru ar hyd a lled y wlad, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar ein treftadaeth amrywiol a chyfoethog. Darllenwch ragor amdanom a’r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Ydych chi awydd gweithio i ni? Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal, ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Problem gyda’r adran Monitro Cydraddoldebau
Rydym yn ymwybodol o broblem dechnegol sy’n effeithio ar rai ymgeiswyr wrth iddynt nodi eu dyddiad geni yn adran Monitro Cydraddoldeb ein ffurflen gais ar-lein. Mae hyn wedi’i adrodd i’n darparwr meddalwedd, sy’n gweithio i ddatrys y broblem.
Yn aml, mae’r broblem yn cael ei hachosi pan fo gosodiad iaith y porwr wedi’i osod i English (US) yn lle English (UK). I ddatrys hyn, gwiriwch osodiadau eich porwr a gwnewch yn siŵr bod English (UK) wedi'i osod fel eich dewis iaith.
Os nad yw hyn yn datrys y broblem, cysylltwch â ni’n uniongyrchol: hr@amgueddfacymru.ac.uk.
Buddion i Staff
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion, gan gynnwys:
- Cynllun pensiwn hael gan gynnwys cyfraniad o 9% gan y cyflogwr
- Polisi aswiriant bywyd nad oes angen cyfrannu ato
- Hawl i wyliau blynyddol hael: 27 diwrnod, yn codi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd
- Hawl estynedig i absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
- Ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol
Darllenwch ragor am darllenwch ein canllaw ar lefelau’r Gymraeg .
Y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a dathlu’r Gymraeg. Mae rhai o’n swyddi yn gofyn i’r ymgeisydd feddu ar lefel benodol o sgiliau yn y Gymraeg. Os nad ydych yn sicr beth yw lefel eich Cymraeg ar hyn o bryd, darllenwch ein canllaw ar lefelau’r Gymraeg .
Cyfleoedd i Wirfoddoli
Heblaw ein swyddi gwag, rydym hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd diddorol eraill, gan gynnwys Gwirfoddoli , Lleoliadau Gwaith ac aelodaeth o’n Fforwm Ieuenctid . Mae sawl ffordd y gallwch gyfrannu at ein gwaith.