Sut i Wneud Cais
Diben y canllaw hwn yw eich helpu i lenwi eich ffurflen gais a chymryd rhan yn effeithiol yn y broses ddethol. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i asesu sut yr ydych yn diwallu gofynion y rôl. Darllenwch y canllaw hwn cyn dechrau ar eich cais.
Mae’r ffurflen gais hon yn rhan bwysig o’r broses ddethol. I sicrhau tegwch i’n holl ymgeiswyr, mae’r penderfyniad i gynnwys ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad yn seiliedig ar yr wybodaeth yn y ffurflen gais. Mae’n bwysig eich bod yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Ni allwn ystyried unrhyw wybodaeth all fod gennym eisoes amdanoch chi.
Peidiwch ag atodi unrhyw ddogfennau eraill megis CV, tystlythyrau neu gopïau o dystysgrifau addysg oni bai ein bod wedi gofyn i chi wneud hynny. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau ar ffurf CV.
Llenwi’r ffurflen
Mae’n hanfodol eich bod yn darllen y Disgrifiad Swydd yn enwedig yr adrannau ar Gymwyseddau cyn cwblhau eich ffurflen gais.
Dyma ganllawiau ar gyfer prif adrannau’r ffurflen gais.
Sgiliau iaith
Byddwn yn gofyn i chi am lefel eich gallu o ran ysgrifennu a siarad Cymraeg a Saesneg. Bydd Manyleb y Person yn nodi beth yw’r gofynion iaith ar gyfer y swydd. Darllenwch ein canllaw ar gyfer lefelau iaith Gymraeg am wybodaeth ar lefelau iaith.
Hanes cyflogaeth
Cofiwch gynnwys pob swydd yn yr adran hon, gan ddechrau gyda’ch swydd bresennol neu eich swydd ddiwethaf, a gorffen gyda’ch swydd gyntaf.
Cymwysterau a hyfforddiant
Dylech gwblhau’r adran hon yn llawn. Cofiwch gyfeirio at y Swydd Ddisgrifiad am unrhyw gymwysterau penodol sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon.
Anghenion penodol i’r swydd
Caiff y Gwybodaeth, Profiad a Sgiliau angenrheidol ar gyfer y swydd hon eu rhestru yn y Swydd Ddisgrifiad. Yn eich ymateb amlinellwch sut yr ydych yn diwallu’r Gwybodaeth, Profiad a Sgiliau pendol i’r swydd fel yr amilniellir yn y Swydd Ddisgrifiad. Mae uchafswm geiriau o 300 fesul adran.
Gofynnir i chi ysgrifennu ymatebion mor llawn â phosibl gan eu bod yn rhoi cefndir ar gyfer y broses o lunio rhestr fer a chyfweld. Mae’n bosibl na fydd ceisiadau sydd ag ychydig iawn o fanylion yn yr adran hon yn mynd ymhellach na’r cam dethol cyntaf.
Cymwyseddau
Mae’r cymwyseddau craidd sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon wedi’u rhestru o dan y penawdau hyn:
- Gweithio’n bositif gydag eraill
- Croesawu dysgu, newid a chreadigrwydd
- Ymroddiad i ganolbwyntio ar gwsmeriaid
- Cyrraedd canlyniadau effeithiol
- Ymroddiad i amrywiaeth a chyfrifoldebau cymdeithasol
Yn yr adran ‘Cymwyseddau sy’n benodol i’r swydd hon’, fe welwch flwch ar gyfer nodi , ‘Esiamplau o’r ymddygiad’,.
Dylai eich ymateb o dan bob pennawd yn y ffurflen gais ddisgrifio sut yr ydych wedi dangos yr ymddygiadau hyn yn y gorffennol.
Gofynnir i chi ysgrifennu ymatebion mor llawn â phosibl gan eu bod yn rhoi cefndir ar gyfer y broses o lunio rhestr fer a chyfweld. Mae’n bosibl na fydd ceisiadau sydd ag ychydig iawn o fanylion yn yr adran hon yn mynd ymhellach na’r cam dethol cyntaf.
Dylech fod yn benodol yn hytrach na damcaniaethol – rhowch ddisgrifiad clir o sut y gwnaethoch ymateb i sefyllfa benodol (a pham). Mae hynny’n fwy defnyddiol na disgrifiad annelwig a chyffredinol o nodweddion sy’n ddymunol.
Dylech roi ystod o esiamplau – os yw’n bosibl, defnyddiwch sefyllfaoedd neu heriau gwahanol rydych wedi’u hwynebu yn hytrach na dibynnu ar un profiad yn unig. Mae hyn yn ein helpu i werthuso sut yr ydych yn mynd i’r afael â gwahanol heriau yn hytrach na’ch ymddygiad ar sail un sefyllfa yn unig.
Os yw eich esiampl yn cynnwys gwaith tîm, dywedwch wrthym beth oedd eich rôl chi o fewn y tîm yn hytrach na dweud beth wnaeth y tîm a beth oedd y llwyddiannau cyffredinol.
Dylech osgoi gwneud datganiadau. Rhowch dystiolaeth i gefnogi’r hyn yr ydych yn ei ddweud. Er enghraifft, datganiad yw ‘Mae gennyf sgiliau cyfathrebu ardderchog gan fy mod yn ymdrin â phobl bob dydd’. Yn hytrach, mae angen i chi egluro beth sy’n gwneud eich sgiliau cyfathrebu’n ardderchog, a disgrifio’r sefyllfa pan gafodd eich sgiliau cyfathrebu effaith bositif, a sut.
Geirdaon
Bydd unrhyw gynnig swydd yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol. Peidiwch ag anfon tystlythyrau.
Gofynnir i chi enwi pobl nad ydynt yn perthyn i chi ac sydd wedi cytuno i fod yn ganolwr i chi. Rhaid i’ch cyflogwr presennol fod yn un o’r rhain, neu eich cyflogwr diweddaraf os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd. Dylai’r geirda arall fod gan rywun a all fynegi barn ar eich gwaith a’ch gallu i wneud y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani. Fel arfer, gofynnir am eirda os cynigir y swydd i chi.
Os nad ydych am i ni ysgrifennu at eich cyflogwr presennol cyn y cyfweliad, gofynnir i chi nodi hynny yn y blwch a ddarperir yn y ffurflen gais. Fodd bynnag, os byddwch yn cael eich argymell i’ch penodi, bydd angen i ni gysylltu â’ch cyflogwr cyn i ni allu cynnig y swydd yn ffurfiol i chi.