Amdanom: Amgueddfa Cymru

Wedi'i sefydlu gan Siarter Brenhinol ym 1907, Amgueddfa Cymru yw sefydliad diwylliannol pwysicaf Cymru, ac un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Amgueddfa yn geidwad ar gasgliad amrywiol sydd ag arwyddocâd rhyngwladol, ac mae'n arwain ym maes addysg a chyfranogiad diwylliannol.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru hefyd Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw, ger Caerdydd.

Cyfanswm Cymorth Grant Llywodraeth Cymru i Amgueddfa Cymru yn 2017-18 oedd £21 miliwn. Mae'r Amgueddfa'n cyflogi dros 600 o staff, ac yn denu tua 1.7 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, cynnydd o 70% ers cyflwyno mynediad am ddim. Rydym yn derbyn tua 2 filiwn o ymweliadau â'n gwefan bob blwyddyn.

Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, sy'n cynnwys celf a dylunio, hanes ac archaeoleg a'r gwyddorau naturiol.

Mae is-gwmni masnachol sy’n llwyr eiddo i Amgueddfa Cymru – Mentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig (AOCC) – sydd â chyfarwyddwyr anweithredol a gyfetholwyd gydag arbenigedd perthnasol. Prif weithgareddau Mentrau AOCC Cyf yw gwerthiant yn siopau Amgueddfa Cymru, arlwyo, parcio ceir, trwyddedu lluniau, llogi corfforaethol, elw trwy werthu neu fenthyg arddangosfeydd, a hawliau ffilmio. Mae’r cwmni’n trosglwyddo’i elw i Amgueddfa Cymru fel Cymorth Rhodd.

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw Amgueddfa Cymru gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr yn pennu cyfeiriad strategol y sefydliad ac yn sicrhau y caiff ei hadnoddau eu rheoli yn briodol.

Ein Gweledigaeth

Yn 2015 cytunodd Amgueddfa Cymru ar Weledigaeth newydd i’r dyfodol er mwyn “ysbrydoli pobl, newid bywydau”. Ein pwrpas yw defnyddio ein hamgueddfeydd a’n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles; i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd.

Hanfod ein gwaith yw bod diwylliant yn adnodd a gaiff ei greu gan bobl a chymunedau. Rydyn ni’n rhan o’r gymdeithas y daw ein casgliadau a’n hadnoddau ohoni, a chânt eu hadnewyddu yn barhaus drwy ein gwaith gyda’r cyhoedd. Mae ein casgliadau gwyddorau naturiol yn helpu i roi cyd-destun o fioamrywiaeth a geoamrywiaeth Cymru, ac yn amlygu lle Cymru o fewn y byd ehangach. Rydyn ni’n atebol i’n cenedl am ein defnydd o’r adnoddau hyn.

Rydyn ni wedi ymrwymo i bum peth er mwyn cyflawni’r Weledigaeth. Nod gwaith pob adran ac aelod o staff yw cyflawni’r ymrwymiadau hyn.

Ffynnu:

  • Gweithredu fel stiwardiaid ein treftadaeth ddiwylliannol a naturiol er lles cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
  • Datblygu, cynnal ac arallgyfeirio ein hadnoddau.
  • Datblygu ein harlwy twristiaeth ddiwylliannol er mwyn cefnogi'r economi Gymreig.

Profiad:

  • Adeiladu a chynnal gofodau ffisegol a digidol croesawgar.
  • Adrodd straeon ysbrydoledig trwy arddangosfeydd a digwyddiadau.

Dysgu:

  • Datblygu sgiliau ein staff a’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o iechyd a llesiant.
  • Hyrwyddo dysgu am oes a darparu cyfleoedd.

Cyfranogi:

  • Datblygu cyweithiau a rhwydweithiau partner effeithiol a chynaliadwy.
  • Cynnwys pobl a chymunedau yn ein gwaith.

Yr Uwch Dîm Arwain

Caiff Amgueddfa Cymru ei harwain gan Uwch Dîm Arwain sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol a phum Cyfarwyddwr Cyfadran. Mae Fforwm Penaethiaid Adran, sy’n cynnwys rheolwyr adrannau yn ogystal â’r Uwch Dîm Arwain, yn cymeradwyo polisïau ac yn adolygu projectau a mentrau pwysig.

Datblygiadau diweddar

Yn ddiweddar, mae Amgueddfa Cymru wedi ymroi adnoddau ac amser staff sylweddol i ailddatblygiad gwerth £30 miliwn i Sain Ffagan i’w throi’n Amgueddfa Hanes Genedlaethol ar gyfer Cymru. Cafodd y project ei gwblhau yn hydref 2018 wrth i’r adeiladau hanesyddol ac orielau newydd agor.

Yn y cyfamser, mae gwaith wedi dechrau ar syniadau ar gyfer ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ynghyd ag ailddatblygiad posibl Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar ymarferoldeb Amgueddfa Genedlaethol Celf Gyfoes ac Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol.

Her allweddol i’r sefydliad fydd cynhyrchu incwm ychwanegol o ffynonellau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys ein gweithgareddau ymchwil, sy’n rhoi enw da rhyngwladol i’n sefydliad, gweithgareddau masnachol a chodi arian o ffynonellau cyhoeddus a phreifat.