Cyfarwyddwyr

Jane Richardson

Prif Weithredwr

Mae gan Jane, sy’n byw yn Llandudno, dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arwain yn y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Fel Cyfarwyddwr yn Croeso Cymru, arweiniodd ar ddatblygu cynnyrch twristiaeth a goruchwylio buddsoddiadau sylweddol mewn atyniadau newydd fel Zip World a’r Bathdy Brenhinol. Cyn hynny, bu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddeng mlynedd yn rheoli eiddo hanesyddol ac arwain ar brofiad ymwelwyr ledled Cymru.

Fel y Prif Weithredwr, mae Jane yn adrodd i’r Cadeirydd a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bydd yn gyfrifol am gynnig ysbrydoliaeth, uchelgais, creadigrwydd ac arweiniad strategol i’r sefydliad.

Beth wnaeth i chi fod eisiau ymuno ag Amgueddfa Cymru?

Mae gen i ddiddordeb mawr yn ein gorffennol – sut mae'r cenedlaethau a ddaeth ynghynt wedi dylanwadu ar bwy ydym ni heddiw. Ac rydw i eisiau gwybod beth all ein hanes ddweud wrthym ni am sut allwn ni ymateb i heriau ein dyfodol. Mae ein safleoedd hanesyddol fel yr Amgueddfa Lechi, yr Amgueddfa Wlân, Big Pit a Sain Ffagan yn rhoi croen gŵydd i mi. Rydw i wrth fy modd yn crwydro'r safleoedd a theimlo cysylltiad â'r gorffennol. Ac rydw i wedi fy ysbrydoli'n fawr gan y casgliadau yn Abertawe, Caerllion ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – mae'r safleoedd hyn yn drysorau i'n cenedl sy'n adrodd popeth rydyn ni wedi'i wneud, ac yn gallu ei wneud, fel pobl.

Roeddwn i eisiau ymuno ag Amgueddfa Cymru gan fy mod i wir eisiau mwy o bobl i brofi'r ysbrydoliaeth a'r llawenydd rydw i'n ei gael gan y safleoedd hyn. Rydw i eisiau pobl o bob cefndir i ymgysylltu â'r llefydd a'r casgliadau anhygoel hyn, ac rydw i eisiau creu ffyrdd iddyn nhw rannu eu straeon eu hunain gyda ni. Rydw i eisiau helpu Amgueddfa Cymru i fod yn gynaliadwy yn ariannol fel y gallwn ni barhau i wneud yr holl waith pwysig rydyn ni'n rhan ohono ar ran pobl Cymru. ⁠Rydw i hefyd eisiau sicrhau ein bod yn sefydliad sydd wir yn genedlaethol, yn cyrraedd holl gymunedau Cymru.

Beth yw eich hoff beth am Amgueddfa Cymru?

Mae fy hoff beth yn newid o ddydd i ddydd. Un diwrnod, y gwŷdd enfawr yn yr Amgueddfa Wlân ydy o, sy'n mynd â fi yn ôl mewn amser i'r adeg pan fyddai'r adeilad cyfan wedi bod yn llawn sŵn ac egni. Y diwrnod wedyn, teras Rhyd-y-car yn Sain Ffagan ydy o, sy'n fy atgoffa o'r cartrefi yn hanes fy nheulu. Ac weithiau, stori benodol ydy o, fel y gragen fylchog yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a wnaeth fyw am dros 500 o flynyddoedd, ac felly yn ei oes wedi gweld y Capel Sistinaidd yn cael ei baentio yn ogystal â'r genom dynol yn cael ei fapio. 

Ers i mi ddechrau yn y rôl hon, mae fy hoff adegau wedi bod yng nghwmni'r staff a gwirfoddolwyr sydd wedi rhannu'r straeon hyn gyda mi. Maen nhw wedi dangos cymaint o bethau i mi nad oeddwn i'n gwybod am ein safleoedd ac wedi rhoi safbwyntiau hollol newydd i mi. Mae ein safleoedd a'n casgliadau yn anhygoel, ond ein pobl sy'n dod â nhw'n fyw.

Dr Kath Davies

Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil

Yn wreiddiol o Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, dechreudodd gyrfa Kath yn y sector amgueddfeydd ac yn dilyn prentisiaeth blwyddyn gydag Amgueddfa Cymru, cafodd swydd fel Swyddog Ymchwil ac Arddangosfeydd gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Bu’n rhan o’r gwaith o sefydlu Oriel Môn yn Llangefni, ac roedd yn gyfrifol am y rhaglen arddangosfeydd ac addysg. Yn dilyn hynny, derbyniodd Kath swydd gyda Chyngor Amgueddfeydd Cymru i gyflawni’r cynllun Achredu newydd.

Mae gan Kath brofiad helaeth yn sector y celfyddydau, a hithau wedi gweithio yn y sector dros 20 mlynedd. Tan ei phenodiad ym mis Ionawr 2020, bu Kath yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Buddsoddi ac Ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru. Hefyd, cyflwynodd Kath raglen wytnwch uchelgeisiol ar draws Cymru gyfan a oedd yn canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd mewn sefydliadau celfyddydol. 

Trwy gydol ei gyrfa, bu Kath yn arwain ar brojectau cyfalaf uchelgeisiol dros Gymru, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Theatr Mwldan yn Aberteifi, Galeri Caernarfon, Canolfan Grefft Rhuthun a chanolfan Pontio, Bangor.

Peter Holt

Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau

Mae Peter yn gyfrifydd cymwysedig ac yn Gymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig. Mae wedi gweithredu ar lefelau uwch ac ar lefel bwrdd yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol ac o fewn amgylcheddau rheoledig. Mae ganddo brofiad o ddylunio a gweithredu strategaethau, gyda ffocws ar newid diwylliannol a gwelliant parhaus, trwy ddadansoddi data, ymgysylltiad cryf â rhanddeiliaid a datblygiad staff.

Mae wedi arwain timau amlswyddogaethol, gan wella perfformiad, ar lefel unigol, tîm a chorfforaethol. Mae ganddo hefyd brofiad o ddatblygu pobl a chydnabod arloesedd mewn systemau a phrosesau trwy ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewnol ac allanol.

Nia Williams

Cyfarwyddwr Addysg, Profiad ac Ymgysylltu

Gafodd Nia ei phenodi'n Gyfarwyddwr yn Amgueddfa Cymru ym mis Hydref 2016. Mae Nia yn athrawes gymwys sydd wedi bod yn gweithio ym myd addysg ers dros 30 mlynedd. 

Llywodd gweledigaeth strategol newydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a enillodd wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019. Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys rhaglenni Digwyddiadau, Arddangosfeydd, Addysg, Cyhoeddi a Gwirfoddoli, a sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gafodd Nia ei geni yng Nghaerdydd ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae Nia yn Hyrwyddwr y Diwydiannau Creadigol gyda'r Ganolfan Polisi a Thystiolaeth, ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Beth wnaeth i chi eisiau ymuno ag Amgueddfa Cymru?

Ymunais ag Amgueddfa Cymru gan fy mod i wastad wedi bod yn angerddol am yr effaith gadarnhaol gall cyfranogiad diwylliannol ei chael ar fywydau pobl. Fel athrawes hanes, rydw i wedi profi hyn yn uniongyrchol, wrth fynd â phlant a phobl ifanc ar ymweliadau ag amgueddfeydd ac atyniadau treftadaeth. Cafodd y disgyblion lawer mwy o'r ymweliad wrth gael cyfle i gymryd rhan a chreu eu profiadau eu hunain. Drwy ddylunio ein rhaglenni ar y cyd â phartneriaid a phobl ifanc, rydyn ni’n sicrhau ein bod yn cynyddu effaith ein casgliadau a'n lleoliadau ysbrydoledig. 

Beth yw eich hoff beth am Amgueddfa Cymru? 

Fy hoff beth i yw angerdd ein staff a'n gwirfoddolwyr, sy'n dod â'n hamgueddfeydd hynod sydd wedi ennill gwobrau yn fyw.  

Phil Bushby

Cyfarwyddwr Rhaglenni sy’n Flaenoriaeth

Symudodd Phil i Gymru 30 mlynedd yn ôl i ymgymryd â'i rôl gyntaf fel hyfforddai rheoli mewn cwmni logisteg. Yng nghanol y 90au, symudodd i weithio ym maes Adnoddau Dynol ac mae wedi bod yn gweithio mewn uwch rolau Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Corfforaethol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bu'n Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ystadau Tŷ'r Cwmnïau a’r DVLA. Cyn iddo ymuno ag Amgueddfa Cymru, bu Phil yn gweithio i'r GIG fel Cyfarwyddwr Datblygu Pobl a Sefydliadol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a bu’n arwain ar waith cenedlaethol ym maes iechyd a lles staff y sector iechyd a gofal yng Nghymru ar draws y GIG a sectorau Gofal Cymdeithasol. Ac yntau’n Gyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol yr Amgueddfa, mae gan Phil gyfrifoldebau eang ac mae'n arwain adrannau corfforaethol gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllid, Ystadau, Pensiynau a'r Swyddfa Broject. Tu allan i'r gwaith mae Phil yn aelod o Eglwys Highfields ac yn Ymddiriedolwr elusen Canser y Thyroid, ac mae hefyd yn ddeiliad tocyn tymor clwb pêl-droed Dinas Caerdydd.

Beth wnaeth i chi eisiau ymuno ag Amgueddfa Cymru?

Roedd gen i ddiddordeb yn y sector a'r effaith y gall diwylliant ei gael ar iechyd a lles, yn enwedig wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Roeddwn i hefyd yn awyddus i ymgymryd â rôl ehangach â chyfrifoldebau tu hwnt i faes Adnoddau Dynol yn unig. Mae’r swydd hon yn gyfuniad perffaith!

Beth yw eich hoff beth am Amgueddfa Cymru?

Mae'r amgueddfeydd i gyd yn wahanol ac yn arbennig yn eu ffyrdd eu hunain. Rwy'n hoff iawn o'r amgueddfeydd sy'n adrodd stori benodol. Rydw i wedi mwynhau ymweld â phob un ohonynt, ond roeddwn i wrth fy modd gyda stori ac agweddau rhyngweithiol Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach.

Nia Elias

Cyfarwyddwr Cysylltiadau a Chyllido

Ymunodd Nia Elias gydag Amgueddfa Cymru yn Ebrill 2021 ac mae hi’n dod â chyfoeth o brofiad a chysylltiadau ar draws y sector diwylliannol, wedi gweithio yn Blood Cancer UK, Canolfan Mileniwm Cymru, Oriel Tate, Somerset House Trust ac Imperial War Museum, London. 

Yn ei rolau blaenorol, mae Nia wedi arwain adrannau codi arian a chynhyrchu incwm masnachol, yn ogystal â gweithio ym maes profiad cwsmer ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr.

Yn siaradwraig Cymraeg o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, sydd bellach yn byw ym Mro Morgannwg gyda'i theulu, mae Nia hefyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phanel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.