Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Dros yr wyth mlynedd diwethaf mae Kate wedi dal sawl rôl anweithredol mewn cyrff allweddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd diwylliant ac iechyd. Mae hi’n angerddol ynghylch helpu sefydliadau i gyrraedd eu llawn botensial, a chyflawni ar ran pobl Cymru. Mae hi wedi ymroi’n llwyr i ehangu ymgysylltiad â diwylliant, hanes a threftadaeth ar draws ein cymunedau, gan adrodd straeon Cymru i’n hunain ac i’r byd.
Cyn dechrau ar ei rolau anweithredol, fe dreuliodd Kate bymtheg mlynedd yn y diwydiant fferyllol a biodechnoleg yn gweithio mewn materion cyhoeddus, polisi a chyfathrebu strategol, yn y DU a thu hwnt.
Cafodd ei geni a’i magu yn y gogledd, gan fynychu Ysgol Alun yn yr Wyddgrug cyn graddio o Brifysgol Caergrawnt. Mae nawr yn byw yn ardal Bannau Brycheiniog.
Wedi astudio economeg a’r gyfraith yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt cymhwysodd Hywel John fel cyfrifydd siartredig. Ers dros ddeg ar hugain o flynyddoedd mae wedi gweithio yn y diwydiant olew a nwy rhyngwladol fel uwch-swyddog gweithredol ac ar fyrddau nifer o gwmnïau cyhoeddus. Yn ddiweddar mae wedi cyfuno gwaith ymgynghorol gyda chyfleon gwirfoddol; fel llywodraethwr ysgol a thrysorydd eglwys, yn helpu gyda chloddiadau archaeolegol lleol ac yn gweithio gyda phlant fel Cynorthwy-ydd Addysg yn cefnogi arddangosfa fawr am y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Datblygu Prifysgol Abertawe.
Yng nghyn-gymuned lofaol Fforestfach ger Abertawe mae gwreiddiau teuluol Hywel, ac mae ei gartref yn Sir Benfro. Mae’n siaradwr Cymraeg ail-iaith brwd ac hefyd yn mwynhau ymweld ag amgueddfeydd, lleoliadau o ddiddordeb hanesyddol a chaeau rygbi ledled Cymru a thu hwnt.
Astudiodd Rhys Hanes Modern ym Mhrifysgol Rhydychen cyn dechrau ei yrfa ym maes newyddiaduraeth. Bu’n gweithio fel gohebydd, cynhyrchydd ac uwch olygydd newyddion yn BBC Cymru, ac roedd hefyd yn gymrawd newyddiadurwr yn Reuters Institute, Prifysgol Rhydychen, yn edrych ar gynhyrchu newyddion mewn gwladwriaethau rhyngwladol.
Mae Rhys yn Bennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus yn BBC Cymru, ac yn gyfrifol am amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys cyfathrebu, materion rheoleiddio a materion cyhoeddus.
Mae Rhys yn angerddol dros wneud archifau'n hygyrch, ac wedi goruchwylio'r gwaith o ddigideiddio archif BBC Cymru, ac fe wnaeth helpu i ddatblygu arddangosfa BBC 100 ar y cyd ag Amgueddfa Cymru. Bu hefyd yn allweddol wrth greu'r Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru, ar y cyd â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Ymddiriedolwr ar Fwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Rhys wedi ysgrifennu am hanes Cymru a darlithio yn y maes, ac wedi cyhoeddi bywgraffiad o Gwynfor Evans a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mae Rhys bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i ddwy ferch. Mae'n cefnogi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae John yn wyddonydd hinsawdd, bardd a daearegydd sy'n angerddol dros weithgarwch allestyn ac ymgysylltu ym maes gwyddoniaeth. Mae'n gyfarwyddwr ar Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen a FareShare Cymru. Yn 42 oed, ar frig ei yrfa, ac yn rhedwr, anturiwr, ogofwr ac arweinydd alldeithiau hynod ffit, cafodd John strôc wnaeth ei orfodi i ymddeol o’r gweithgareddau hyn ar sail feddygol.
Dros y deng mlynedd a mwy diwethaf o fyw gydag anableddau amryfal, mae John wedi bod yn hawlio cyfleoedd i gyfrannu at gymdeithas a chadwraeth yn ôl, gan eu hyrwyddo a rhannu ei brofiad ar ran y rheiny sydd dan anfantais, er lles pawb.
Mae John yn llysgennad newid hinsawdd ar gyfer Climate Cymru. Ym Mlaenafon, mae'n cynnal yr orsaf dywydd fyw a ffrwd byw uchaf yng Nghymru, i'r de o'r Wyddfa. Mae portffolio John yn canolbwyntio'n bennaf ar newid hinsawdd, cynaliadwyedd a chyfleoedd cyfartal o ran Anabledd. Yn gyn-ddirprwy Gadeirydd Disability Labour (y DU), mae bellach yn Swyddog Cyswllt y Senedd ar gyfer Disability Labour yng Nghymru ac yn Swyddog Anabledd ar gyfer LGBT+Labour (Cymru). Mae'n is-gadeirydd Fforwm Mynediad Torfaen, ac wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Iechyd Cymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn ogystal â hyn, mae'n gyfarwyddwr elusen strôc genedlaethol Different Strokes, ac yn eiriolwr dros gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad mewn gweithgareddau amgylcheddol ac addysgol. Wedi iddo raddio o adran Daearyddiaeth a Daeareg, Coleg Prifysgol Caerdydd, astudiodd am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caeredin, lle daeth yn Gadeirydd Sylfaenol ysgol raddedigion Geowyddorau y Grant Institute. Gyda’i angerdd dros ymgysylltiad y cyhoedd, y gymuned ac ysgolion ag ymchwil yn cryfhau, yma daeth yn arweinydd hinsawdd a fylcanoleg project cydweithredol COPUS y Gymdeithas Frenhinol ac Amgueddfa Genedlaethol yr Alban, sef sioe ddaearyddol deithiol Earth Fun (the back-in-time-Bus). Mae’r project wedi ymgysylltu â thros 40,000 o ddysgwyr ifanc yn yr Alban a Sweden. Wedi iddo fagu gyrfa fel ffisegydd, datblygodd yrfa mewn gwyddoniaeth dirlun a gwyddoniaeth hinsawdd, gan gynnwys cyfrannu at sawl Rhaglen Drilio Môr Rhyngwladol, gan arwain tua 25 taith ymchwil ryngwladol o Borneo i'r Arctig. Mae gan John broffil rhyngwladol - mae wedi cyhoeddi dros 50 o bapurau ymchwil ar newid hinsawdd a daeareg, ac mae wedi cadeirio timau sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Dirprwy Brif Weinidog, wedi cynghori rhanbarthau Llywodraethol ac awdurdodau lleol ar strategaethau newid hinsawdd. Roedd yn aelod sylfaenol o'r Ganolfan Addysg Uwch gyntaf yn y DU ar gyfer Rhagoriaeth mewn Addysg Weithredol ar gyfer Daearyddiaeth/y Geowyddorau, ac mae’n gyd-Brif Olygydd y Cyfnodolyn rhyngwladol, Addysgu a Dysgu Addysg Uwch.
Cafodd Owen Hathway ei eni a'i fagu yn y Rhondda. Fe astudiodd Wleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn adeiladu gyrfa mewn amryw swyddi polisi a chyfathrebu dros 20 mlynedd. Owen yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Ddirnadaeth, Polisi, Materion Cyhoeddus a Buddsoddi Cymunedol yn Chwaraeon Cymru. Yn y rôl hon mae'n goruchwylio gwaith ymchwil y sefydliad, eu perthynas â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, yn ogystal â bod yn gyfrifol am ddosbarthu nawdd Llywodraeth Cymru a'r Loteri i glybiau a grwpiau cymunedol ym mhob cwr o Gymru. Cyn ymuno â'r sefydliad magodd Owen frwdfrydedd dros rôl diwylliant yn y maes addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc diolch i'w waith fel arweinydd cyfathrebu Plaid Cymru yn y Senedd a'i amser yn arwain ar bolisi, cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus yng Nghymru dros undeb addysg mwyaf y DU.
Mae Owen yn gyd-gadeirydd bwrdd rheoli strategol Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru ac mae hefyd wrthi'n cwblhau gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.
Cafodd Daniel ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, ac fe aeth i Ysgol y Bont-faen cyn mynd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae gan Daniel 25 mlynedd o brofiad fel cyfreithiwr busnes yn gweithio ar drafodiadau rhyngwladol yn y DU ac Ewrop. Yn 2012, sefydlodd Daniel swyddfa Ewropeaidd ar gyfer cwmni cyfreithiol rhyngwladol. Arweiniodd y swyddfa, gan gynghori buddsoddwyr rhyngwladol ar lefel y bwrdd a chyflawni rolau anweithredol fel cyfarwyddwr. Fe wnaeth Daniel adeiladu ac arwain tîm amrywiol a chynhwysol o 50 o gydweithwyr, oedd yn dod o 15 gwlad wahanol. Mae ganddo angerdd erioed am ieithoedd a hanes, ac mae’n eiriolwr mawr dros gyfraniad sefydliadau diwylliannol i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, a chyfraniad y cymunedau hyn sy’n rhoi cyfoeth diwylliannol i’r sefydliadau. Mae Daniel yn gallu siarad Ffrangeg, Almaeneg, Lwcsembwrgeg ac mae’n ddysgwr Cymraeg brwd. Ynghyd â’r rolau cynghorol ar fyrddau a’i waith gwirfoddol, mae Daniel yn mwynhau cerdded, beicio, rygbi Cymru a’r celfyddydau.
Mae Dave Jones, sydd wedi gweithio fel rheoleiddiwr amgylcheddol am 20 mlynedd, yn Uwch-gynghorydd Arbenigol yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dave sy’n gyfrifol am ddatblygu polisi a chanllawiau ar gyfer rheoli a gwarchod dŵr daear yng Nghymru. Mae Dave yn Ddaearegydd Siartredig ac yn Wyddonydd Siartredig, ac yn gyn Lywydd y Gymdeithas Ddaearegol, cymdeithas ddaearegol hynaf y byd. Fe astudiodd Ddaeareg fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn cwblhau gradd meistr mewn Hydroddaeareg.
Mae’n angerddol am wyddoniaeth a’r amgylchedd ac mae’n edrych ymlaen at sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn parhau i gael ei chydnabod am ei hymrwymiad i’r amgylchedd.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae’n dod yn wreiddiol o Wrecsam, ond bellach Caerdydd yw ei gartref.
Cyfathrebwraig ac addysgwraig gwyddoniaeth frwdfrydig yw Dr Emma Yhnell sydd wedi ennill sawl gwobr yn y maes. Mae'n Ddarllenydd Niwrowyddoniaeth ac yn Ddeon Cyfrannog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) adran y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal â gradd anrhydedd BSc mewn Biocemeg, PhD ar glefyd Huntington a PGCert mewn Treialon Clinigol, mae wedi cwblhau cymrodoriaeth ymchwil annibynnol dan nawdd Llywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Diolch i'w harbenigedd rhyngwladol ym maes cyfathrebu gwyddoniaeth, mae wedi meithrin enw da am ei gallu unigryw i gyflwyno pynciau technegol, academaidd mewn ffordd ddeniadol, berthnasol sy'n diddanu. Mae ganddi frwdfrydedd heintus ac awch am addysg ac addysgu. Mae hi'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gymrawd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol ac yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol, yn ogystal â nifer o anrhydeddau eraill. Fel rhywun sydd wedi ymrwymo i wthio newid a hyrwyddo cydraddoldeb, mae gan Emma gyfoeth o brofiad ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad (EDI) ac yn eistedd ar bwyllgorau ymgynghorol cenedlaethol a rhyngwladol ar faterion Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), niwrowyddoniaeth, moeseg ac addysg.
Mae gan Jan Williams brofiad mewn uwch-dimau arwain ar draws y system gofal iechyd gyfan yng Nghymru, gyda gyrfa llwyddiannus yn arwain a datblygu sefydliadau, yng ngwyddoniaeth gwella ac ym meysydd ymchwilio, archwilio a rheoleiddio wrth greu gwelliannau mewn polisi ac arferion.
Cafodd Jan ei haddysgu hyd at lefel ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Aberdeen. Ymunodd â’r GIG yn 1979 ac fe gafodd nifer o swyddi uchel ar lefel Ymddiriedolaeth y GIG, yr Awdurdod Iechyd a’r Bwrdd Iechyd; cafodd Jan hefyd swyddi uchel ar lefel genedlaethol ac yn Llywodraeth Cymru.
Cyn ei phenodiad yn Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhwng 2013 a 2017, Jan oedd Comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) dros heddlu Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi. Roedd hyn yn cynnwys aelodaeth o Gorff Llywodraethu yr IPCC, trosolwg o ymchwiliadau annibynnol o’r heddlu dan sylw, a chreu argymhellion dysgu er mwyn gwella polisi ac arferion.
Yn ogystal â’i rôl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, dros y blynyddoedd diwethaf mae Jan wedi bod yn aelod o Fwrdd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, ac yn aelod annibynnol ar Banel Sicrwydd Ansawdd Adolygu Lladdiadau Domestig y Swyddfa Gartref.
Rhoddwyd OBE i Jan am ei gwaith ar Gyngor ACAS, ar gyfer cysylltiadau diwydiannol yn y sector iechyd.
Treuliodd Richard flynyddoedd cynnar ei fywyd gwaith fel peiriannydd a rheolwr yn y diwydiannau dur a chopr, cyn symud i yrfa ym maes addysg uwch. Mae wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr, mewn amrywiaeth o rolau, o ddarlithydd i Is-ganghellor Cynorthwyol. Treuliodd ei yrfa academaidd ym maes Peirianneg ac ystod eang o raglenni STEM. Yn ogystal, mae wedi bod yn rhan o arwain nifer o brojectau ymchwil gymhwysol a chyfnewid gwybodaeth gydag ystod eang o bartneriaid diwydiannol. Mae Richard yn ymddiddori mewn addysg ryngwladol, a bu’n aelod o Grŵp Cynghori Rhyngwladol Dirprwy Is-gangellorion ar gyfer Prifysgolion Cymru, yn ogystal ag Athro Gwadd ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan. Arweiniodd ar brojectau mawr ar gyfer y Rhaglen STEM Addysg Uwch Genedlaethol, ac mae wedi bod yn rhan o waith cefnogi projectau allestyn STEM gydag ysgolion am nifer o flynyddoedd. Yn ystod ei amser yng ngogledd Lloegr, gweithiodd yn agos â’r Amgueddfa Genedlaethol Gwyddoniaeth a Chyfryngau yn Bradford, a nifer o sefydliadau diwylliannol sy’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Urdd Addysg Uwch a bwrdd y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, ac mae’n llywodraethwr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, aelod anweithredol o fwrdd Gyrfa Cymru ac aelod o Bwyllgor Cynghori Rhyngwladol Prifysgol Coventry. Mae Richard yn angerddol am bŵer addysg i drawsnewid bywyd unigolion a ffawd cymunedau cyfan. Mae ganddo ddiddordebau helaeth yn y celfyddydau a diwylliant, gan gynnwys cerddoriaeth, hanes a diwylliant amrywiol Cymru, ei threftadaeth ddiwydiannol yn benodol, a chelf Gymreig.
Mae Justin wedi bod yn Brifweithredwr Cymdeithas Sŵolegol Bryste ers 2018 ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn nwy o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd y DU.
Roedd yn Gyfarwyddwr Ymgysylltu Cyhoeddus yn yr Amgueddfa Hanes Natur, yn arwain unrhyw waith ymgysylltu a masnachol gan lywio'r strategaeth hirdymor yn y DU a thramor. Un project nodedig a arweiniodd Justin oedd gweddnewidiad Prif Neuadd yr Amgueddfa ac arddangos y morfil glas yno.
Cyn hyn bu'n Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Phrojectau ac yn Gyfarwyddwr Cynllunio Strategol yr Amgueddfa Brydeinig, a hefyd yn gweithio am ddwy flynedd yn y sector breifat gyda John Lewis Partnership. Dechreuodd ei yrfa fel Curadur yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerwysg cymhwysodd Huw fel Cyfrifydd Siartredig yn Llundain a mynd ymlaen i weithio i gwmnïau cyfrifo mawr yn Llundain, Brasil a Chaerdydd.
Ar ôl dychwelyd i'r DU yn 1994 fe ymunodd â'r GIG ac roedd yn dal swyddi Cyfarwyddwr Gweithredol o 2003 tan iddo ymddeol ym mis Mai 2026.
Treuliodd Huw hefyd ddau dymor fel ymddiriedolwr gyda Tenovus Cancer Care, gan gad-eirio'r pwyllgor archwilio.
Mae'n frwd dros sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei lywodraethu'n gywir, a bod mynediad teg i wasanaethau cyhoeddus.
Mae'n briod gyda thri mab sydd nawr yn oedolion. Tu allan i'r gwaith mae'n mwynhau teithio, rhedeg ambell farathon, beicio a gwylio chwaraeon. Bydd Huw yn defnyddio'i ymddeoliad i ddechrau dysgu Cymraeg.
Mae Clare wedi mwynhau gyrfa bymtheg mlynedd ar hugain o hyd yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a Whitehall, gan bontio gwledydd, meysydd polisi, ac mewn rolau cyflawni ar brojectau mawr. Cafodd ei magu yng ngogledd Cymru, ychydig filltir-oedd o'i chartref heddiw yn Sir y Fflint. Astudiodd Clare Hanes Canoloesol yn St Andrews a Hanes Pensaernïol yn Athrofa Gelf Courtauld cyn ymuno â Chomisiwn Bren-hinol Cofebion Hanesyddol Lloegr yn 1990. Arweiniodd hyn at symud i'r Adran Treftad-aeth Genedlaethol newydd yn 1992 lle bu'n gweithio ar ddathliadau'r Mileniwm, polisïau amgueddfeydd a llyfrgelloedd, a phensaernïaeth a'r byd trefol.
Fe ddychwelodd i Gymru yn 2004 i weithio ar gyfuno'r Llysoedd Coron, Sirol ac Ynadon ac i fod yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn roedd hi hefyd yn Ymddiriedolwr yr Institute of Cancer Research. Yn 2011 fe ddych-welodd i Lundain i ddod yn Gyfarwyddwr Diwylliant yn yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon gan arwain gwaith yr Olympiad Diwylliannol a canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl y Gemau Olympaidd ehangodd ei rôl i gynnwys twristiaeth a chwaraeon.
Yn 2018 daeth Clare yn Brifweithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda phar-tneriaid yn Llywodraeth Cymru i daclo'r argyfyngau hinsawdd a natur. Roedd hi hefyd yn aelod o Fwrdd 14-18 Now ac Opera Genedlaethol Cymru. Yn 2025 ymddeolodd Clare o rolau gweithredol llawn amser, ac yn ogystal â rolau anweithredol, mae hi'n mwynhau cyfrannu fwyfwy at ei chymuned leol a gwneud ychydig o waith ymgynghorol.
Mae Freya Stannard yn brofiadol ym maes treftadaeth ddiwylliannol. Ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Grŵp Diwylliannol Exhibition Road, corff aelodaeth sy'n rhoi llwyfan i ardal ddiwylliannol De Kensington i wella'r profiad i'r bobl sy'n byw, astudio a gweithio yn yr ardal, ac yn ymweld â hi.
Cyn hynny, bu'n Bennaeth Rhaglenni Cenedlaethol yn Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a chyn-reolwr Partneriaethau Cenedlaethol yn y Tate. Mae ei gwaith yn canolbwyntio'n benodol ar greu partneriaethau er mwyn ymgysylltu â chymunedau amrywiol ar draws y DU, ac mae ganddi brofiad o weithio'n agos â nifer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru.
Mae Freya hefyd wedi gweithio mewn nifer o rolau yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, gan reoli'r Cynlluniau Derbyn yn Lle Treth a Rhoddion Diwylliannol, a chefnogi'r Pwyllgor Adolygu ar Allforio Gweithiau Celf a Gwrthrychau o Ddiddordeb Diwylliannol.
Mae hi’n frwdfrydig dros effaith gadarnhaol diwylliant a threftadaeth ar gymdeithas, ac mae’n canolbwyntio ei hymdrechion ar ddatblygu’r sector, gan ehangu mynediad a chyfuno ei chariad at fyd natur a’r celfyddydau.
Mae Cai Wilshaw (ef/fe) yn ymgynghorydd cyfathrebu sy'n gweithio yn The Economist, asiantaeth gyfathrebu The Fourth Angel, a TNW (cwmni Financial Times). Cyn hynny bu'n Bennaeth Materion Allanol ar gyfer cyhoeddiad LGBT+ mwyaf poblogaidd y byd, PinkNews, ac mae'n sylwebydd rheolaidd i BBC Cymru ar wleidyddiaeth UDA ar ôl gweithio yng Nghyngres yr UD. Yn ei rolau presennol mae ganddo ffocws penodol ar amrywiaeth a chynhwysiant, cynaliadwyedd, a sefydlu partneriaethau byd-eang arloesol.