Prif Weithredwr

Jane Richardson

Mae Jane wedi bod yn Gadeirydd Cadw ers 2019, gan gefnogi’r sefydliad drwy’r pandemig a’r broses o adfer ar ôl Covid. Tan yn gynharach eleni, roedd hi’n Gyfarwyddwr Economi a Lle yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn arwain ar brojectau seilwaith mawr fel creu canolfan ddiwylliant newydd yn nhref hanesyddol Conwy.

Mae gan Jane, sy’n byw yn Llandudno gyda’i gŵr a’i dau o blant, dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arwain yn y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru. Fel Cyfarwyddwr yn Croeso Cymru, arweiniodd ar ddatblygu cynnyrch twristiaeth a goruchwylio buddsoddiadau sylweddol mewn atyniadau newydd fel Zip World a’r Bathdy Brenhinol. Cyn hynny, bu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddeng mlynedd yn rheoli eiddo hanesyddol ac arwain ar brofiad ymwelwyr ledled Cymru.

Yn y rôl newydd hon yn Amgueddfa Cymru, bydd y Prif Weithredwr yn adrodd i’r Cadeirydd a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bydd yn gyfrifol am gynnig ysbrydoliaeth, uchelgais, creadigrwydd ac arweiniad strategol i’r sefydliad. ⁠Bydd cyflawni Strategaeth 2030 yn ganolbwynt, gan sicrhau bod y teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau yn diwallu anghenion amrywiol cymunedau Cymru, yn ogystal â hyrwyddo ein hanes a’n diwylliant i ymwelwyr a chynulleidfaoedd rhyngwladol.