Cymryd Rhan
Mae ein hamgueddfeydd yn llawn gwrthrychau diddorol ac yn fwrlwm o brojectau cyffrous sy’n ysbrydoli. Drwy gyfrannu gallwch chi gynyddu sgiliau a sylfaen gwybodaeth Amgueddfa Cymru a thaflu goleuni newydd ar ein gwaith.
Gall hyn gynnwys helpu ymwelwyr i drin gwrthrychau yn ein horielau enwog, helpu staff arbenigol y tu ôl i’r llenni i gatalogio sbesimenau, neu dorchi llewys ym mhrydferthwch y gerddi hanesyddol.
Pobl Cymru yw perchnogion y casgliadau cenedlaethol, felly beth am ein helpu ni i reoli, cadw ac arddangos ein treftadaeth?
Edrychwch ar y gwahanol ffyrdd o gymryd rhan yn Amgueddfa Cymru:

Gwirfoddoli
Gall gwirfoddolwyr wneud cyfraniad gwerthfawr i Amgueddfa Cymru a chyfrannu at bob math o brojectau mewn wyth lleoliad ar draws Cymru. Gallwch chi daflu goleuni newydd ar ein casgliadau, ein helpu gyda gweithgareddau addysg neu i adeiladu rhai o’r adeiladau hanesyddol hyd yn oed. Dewch i gymryd rhan! Dewch i gyfrannu!

Gwirfoddoli Grŵp
Mae Gwirfoddoli Grŵp yn ffordd wych o helpu eich cymuned leol tra'n annog eich grŵp i weithio fel tîm. Yn y gorffennol, mae staff banciau, y gwasanaeth sifil ac elusennau a chlybiau lleol wedi gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Dyma'r grŵp yma yn helpu'r Amgueddfa gyda phrojectau mawr fel garddio, gwaith fferm a threfnu deunydd archif hyd yn oed.

Gofalwyr
A ydych chi’n un o’r 400,000 o oedolion a phobl ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru? Neu ydych chi wedi bod yn ofalwr yn y gorffennol? Os felly, hoffem glywed oddi wrthych.

Fforwm Ieuenctid (14-25)
Ydych chi rhwng 14 a 25? Allwch chi ein helpu i ddenu pobl ifanc i’n hamgueddfeydd? Rydyn ni’n chwilio am greadigrwydd a syniadau newydd, ond yn fwy na dim am eich llais chi i gyfrannu at benderfyniadau yn Amgueddfa Cymru.

Lleoliadau Gwaith
Mae gan Amgueddfa Cymru ddau fath o leoliad gwaith ar gael - Lleoliadau Datblygu Sgiliau a Lleoliadau Gwaith.
