GRAFT

"Mae GRAFT yn stori yn ei hun, stori am harddwch, am wneud Abertawe yn lle mwy deniadol, am greu cysylltiadau drwy waith tîm a chyfeillgarwch, ac am roi gyda chalon lawen, nid am ennyd neu am dymor, ond i greu rhywbeth parhaol ar gyfer y gymuned."

Anca Polgar, rhan o broject GRAFT



Mae’r ardd GRAFT yn iard ganolog Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yng nghalon Abertawe. Mae’n fan i dyfu bwyd mewn modd cynaliadwy ac organig, gan greu tirlun bwytadwy i sbarduno cyfraniad a thrafodaeth, cynhyrchu llysiau, ffrwythau a blodau ac yn le hardd – i beillwyr ac i ymwelwyr!

Mae’r ardd wedi’i chreu ac yn cael ei chynnal a’i chadw gan ein tîm o gyfranogwyr cymunedol sy’n cyfarfod bob dydd Gwener. Rydyn ni’n gweithio gyda llawer o grwpiau ledled y ddinas, gyda phobl hen ac ifanc yn gweithio ochr yn ochr i ddysgu sgiliau newydd fel tyfu, crefftau, coginio, cadw gwenyn a gwaith coed. Mae’n le gwych i wneud ffrindiau a magu hyder.

Mae’r llysiau a’r mêl yn cael eu defnyddio yng Nghaffi’r Amgueddfa a’i gyfrannu i grwpiau ledled y ddinas sy’n rhoi bwyd i rai mewn angen. Mae’r cynnyrch hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coginio yn ein Cegin Gymunedol ac ar gyfer ein Swper GRAFT sy’n cael eu cynnal sawl gwaith y flwyddyn gan ddefnyddio ein ffwrn glom dros dân pren, gyda siaradwyr, cerddoriaeth a choctels botanegol.

Mae ein cychod gwenyn yn cael eu cynnal a’u cadw gan ein gwenynwr preswyl ynghyd â grwpiau ieuenctid, a gellir gweld y cychod drwy’r ffenestri yn ein Harddangosfa Gwenyn. Cynhelir sesiynau GRAFT Bach unwaith y mis ar gyfer ein garddwyr ifanc dan 5 oed.

Digwyddiadau

Blog